Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae rhaglen LlGC ar gyfer casgliadau digidol yn arwain, neu’n bartner, mewn nifer o brosiectau e-Ymchwil ar y cyd. Mae’r prosiectau presennol yn cynnwys:
Rhyfel Byd 1914-1918 a’r profiad Cymreig
Mae hwn yn brosiect masddigido, a ariennir gan JISC, mewn cydweithrediad â chasgliadau arbennig ac archifau Cymru i ddigido’r ffynonellau cudd am effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar bob agwedd o fywyd yng Nghymru: yr iaith, diwylliant, gwleidyddiaeth a’r gymuned.
Bydd y Rhwydwaith ymchwil hwn a ariennir gan raglen Landscape and Environment yr AHRC, yn ymchwilio i wytnwch a’r duedd i gael tywydd eithafol yng Nghymru, mewn cydweithrediad â gwyddonwyr ym maes hinsawdd ac ymchwilwyr perfformiad.
Rhwydweithiau ar gyfer Dulliau Digidol yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau (NeDiMAH)
Rhaglen Rhwydweithio Ymchwil y Sefydliad Gwyddonol Ewropeaidd sy’n cofnodi a dosbarthu’r arfer o ddyniaethau digidol ledled Ewrop. Mae NeDiMAH yn adeiladu ar Rwydwaith Dulliau TGCh yr AHRC i gofnodi sut mae ymchwilwyr academaidd yn gweithio gyda chynnwys digidol, a’r dulliau newydd sy’n dod i’r amlwg i gysylltu, anodi a defnyddio cynnwys digidol.
Cysylltu Cofnodion Seneddol trwy Fetadata (LIPARM)
Bydd y prosiect hwn a ariennir gan JISC yn cysylltu archifau digidol deunydd seneddol, hanesyddol a chyfoes, trwy greu cynllun metadata unedig ar gyfer ei holl brif elfennau.
Your place in Wales/Wales1900
Bydd y prosiect hwn yn datblygu llwyfan cymorth torfol ar gyfer enwau lleoedd Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â Galaxy Zoo, Casgliad y Bobl, Cymru a Phrifysgol Cymru.