Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae’r prosiect digido i fusnes yn cael ei redeg gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru er mwyn cefnogi busnesau creadigol bach a chanolig o fewn ardaloedd cydgyfeiriant Cymru. Ers dros ddeng mlynedd bellach, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod yn rhedeg nifer helaeth o brosiectau digido. Adnabyddir y Llyfrgell fel canolfan sgiliau digido gyda’r gorau o’i math yn Ewrop.
Pwrpas digido i’r Llyfrgell yw cynnig mynediad i’w chasgliadau helaeth. Nod y prosiect yw hybu busnesau arloesol Cymru i allu cystadlu yn lleol ac yn fyd-eang. Mae’r prosiect hwn yn cynnig cyfle i fusnesau fanteisio ac ail-ddefnyddio ystorfa enfawr o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, un o lyfrgelloedd mawr y byd.
Beth sydd mor arbennig am y prosiect hwn?
Mae deunydd newydd yn cael ei ddigido bob dydd ac mi fydd copïau o ansawdd uchel ar gael am ddim i fusnesau eu defnyddio yn fasnachol. Bwriad y Prosiect Digido yw hybu busnesau creadigol yng Nghymru i weld potensial a chyfoeth gwahanol gasgliadau hanesyddol. Yn ychwanegol, bydd y prosiect hwn yn agor y drws i fusnesau fanteisio ar gymorth ac arbenigedd staff y Llyfrgell. Mi fydd busnesau yn derbyn cymorth ar ystod eang o faterion gan gynnwys hawlfraint a thrwyddedu, TGaCh, cipio digidol, storio digidol a chadwraeth hyd at gymorth ar sut i chwilio'r adnoddau presennol.
Wedi eu digido yn barod mae:
• Llawysgrifau;
• Archifau;
• Deunydd Print;
• Sain a Fideo;
• Darluniau;
• Arddangosfeydd;
• Mapiau;
• Ffotograffau.
Sut mae’r prosiect yn cael ei ariannu?
Mae'r cynllun pedair mlynedd yn cael ei gefnogi gan Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) trwy Llywodraeth Cymru, ynghyd ag adnoddau o'r Llyfrgell. Ni fyddai’n bosib i ni gynnig y wasanaeth hon i fusnesau heb help a chymorth ariannol Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop.
Oes gen ti ddiddordeb?
Beth am bori trwy’r Drych Digidol i weld sampl o'r eitemau sydd ar gael. Neu ewch at wefan Flickr Commons Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy'n cynnwys ffotograffau heb unrhyw faterion hawlfraint sy'n hysbys i ni.
Yn ychwanegol at hynny, mae gwefan newydd digiDo newydd ei lansio ac yn fyw nawr! Ewch at www.digido.org.uk i gael cipolwg ar rhai o'm eitemau mwyaf deniadol a diddorol.
Digwyddiadau
** Cyflwyno'r Casgliadau Digidol **
I'w gynnal yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ar ddydd Mawrth y 16 o Orffennaf am 10 y.b. Mae modd cofrestri am y digwyddiad hwn yma.
Am fwy o wybodaeth am y prosiect hwn neu er mwyn mynychu unrhyw ddigwyddiadau cysylltwch â ni yn uniongyrchol ar:
Ted Jones:
Ff: 01970 632 928
E: edward.jones@llgc.org.uk
Mari Grug:
Ff: 01970 632 983
E: mari.grug@llgc.org.uk