Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

About NLW

Am LlGC

Newyddion Diweddaraf


Archifo’r Bydysawd Digidol

 

 

Wrth i’r Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol baratoi ar gyfer lansiad deddfwriaeth newydd bydd yn rheoli adnau cyfreithiol cyhoeddiadau di-brint ar 6 Ebrill, mae curaduron o’r chwe llyfrgell wedi llunio rhestr o’r 100 gwefan bydd yn angenrheidiol i ymchwilwyr y dyfodol. Ymhlith y gwefannau sydd wedi eu dewis mae gwefan yr Eisteddfod Genedlaethol, Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru a Chasgliad y Werin. Pa wefannau byddech chi wedi dewis? Gallwch ymuno yn y sgwrs ar Twitter trwy ddefnyddio’r hashtag #digitaluniverse.

 

 

Rheoliadau Adnau Cyfreithiol Di-brint a osodwyd gerbron y Senedd

 

Ar 28 Ionawr, cafodd  Rheoliadau'r Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol (Gweithiau Di-brint) 2013 eu gosod gerbron y Senedd.

 

Bydd y rheoliadau hyn yn ymgais i alluogi’r Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol i ddarparu archif genedlaethol o ddeunydd cyhoeddedig di-brint y DG, megis gwefannau, blogiau, e-gyfnodolion ac e-lyfrau mewn modd nad sy’n niweidio buddiannau masnachol cyhoeddwyr ac sy’n parchu perchnogaeth hawlfraint.

 

O wneud hyn, maent yn mynd i’r afael â’r her bwysig o ddiogelu treftadaeth ddigidol y genedl i’r cenedlaethau a ddêl. Bydd ymchwilwyr y dyfodol yn gallu astudio a dadansoddi ffynhonnell gynhwysfawr o ddeunydd mewn Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol sy’n adlewyrchu’n gywir gymdeithas y DG fel y mae heddiw.

 

Mae Llyfrgelloedd a chyhoeddwyr wedi cydweithio â’i gilydd, trwy’r Cydbwyllgor ar Adnau Cyfreithiol*, i sefydlu’r egwyddor a chynnwys y rheoliadau.  Byddant yn cael eu gweithredu ym mis Ebrill eleni, a’r adeg hon gall y broses o archifo ein treftadaeth ddigidol gan Lyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol ddechrau o ddifrif.

 

Association of Learned and Professional Society Publishers; Llyfrgell Bodleian; y Llyfrgell Brydeinig; Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt; Cymdeithas Ryngwladol yr STM ; Llyfrgell Genedlaethol Yr Alban; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Newspaper Publishers Association; Newspaper Society; Professional Publishers Association; Publishers Association; Publishers Content Forum; Coleg y Drindod Dulyn

 

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 04-04-2013