Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?

Awduron Cymru: The Oxford Book of Welsh Verse & John Cowper Powys


09 Mawrth 2013 - Chwefror 2014



The Oxford Book of Welsh Verse


Cip-olwg ar hanes cyhoeddi The Oxford Book of Welsh Verse a gyhoeddwyd hanner can mlynedd yn ôl, ynghyd â’r ymateb amrywiol a gafodd blodeugerdd nodedig Syr Thomas Parry; blodeugerdd sydd yn dal i gael ei defnyddio mewn ysgolion a phrifysgolion ar draws Cymru.

Bydd yr arddangosfa arbennig hon yn dangos llawysgrifau gwreiddiol rhai o’r cerddi sy’n ymddangos yn The Oxford Book of Welsh Verse, llythyron yn dangos y berthynas rhwng Syr Thomas Parry â nifer o Gymry blaenllaw’r dydd, adolygiadau o’r gyfrol a pheth o hanes blodeugerddi eraill yn yr iaith Gymraeg.   


John Cowper Powys

Yn awdur nofelau, barddoniaeth, gweithiau athronyddol a thraethodau, cyhoeddodd John Cowper Powys dros hanner cant o weithiau llenyddol yn ystod ei fywyd, ond cafodd ei ddisgrifio fel ffurf o Marmite llenyddol yn sgil ei ddychymyg a’i arddull ryfedd.
Mae'r arddangosfa hon yn cyflwyno rhai o lawysgrifau cynharaf nofelau enwocaf John Cowper Powys, Wolf Solent ac A Glastonbury Romance, ac hefyd yn datgelu agweddau o’i fywyd personol trwy lythyron i’w gymar bywyd Phyllis Playter a llenorion megis E.E. Cummings a Henry Miller, ynghyd â’r dyddiaduron a gadwodd tra yn America a Gogledd Cymru.  

Dylanwadodd y cysylltiad â Chymru a oedd ganddo trwy deulu ei Dad a thrwy ei gyfnod yng Ngogledd Cymru yn drwm arno, ac yn yr arddangosfa hon gellir gweld sut y bu i hanes a chwedloniaeth Cymru effeithio ar ei waith llenyddol.   

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-04-2013