Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

16 Mawrth - 14 Mai 2013
Mae Papurau Newydd Cymru Ar-lein yn adnodd rhad ac am ddim gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a fydd yn galluogi unrhyw un sy’n ymddiddori yn hanes a phobl Cymru i bori a chwilio 100 a mwy o gyhoeddiadau o’i chasgliad cyfoethog o bapurau newydd cyn-1910.
Trwy dechnoleg ddigidol, gall Llyfrgell Genedlaethol Cymru ymestyn yn ddirfawr ddefnydd a gwerth y cofnod gwych hwn o wybodaeth bob-dydd, a hynny trwy drosi’r fformat papur gwreiddiol i ffurf ddigidol a sicrhau ei fod ar gael am ddim i’w ddefnyddio ar ei gwefan.
Mae Papurau Newydd Cymru Ar-lein yn deillio o brosiect wedi’i gyllido yn rhannol gan y Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.