Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Dyddia’r llawysgrif Gymraeg fechan hon o ail hanner y 14eg ganrif, ac mae’n cynnwys Dull Dyfed o gyfraith frodorol Cymru. Mae’n un o’r ychwanegiadau pwysicaf diweddar i gasgliadau llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a hi oedd y llawysgrif ganoloesol Gymraeg gyntaf ers 1923 i ymddangos mewn arwerthiant cyhoeddus.
Ysgrifennwyd y llawysgrif ar femrwn gan 4 unigolyn, gyda’r prif ysgrifydd yn gweithio yn ne-orllewin Cymru yn ystod ail hanner y 14eg ganrif. Prif destun cyfreithiol y llawysgrif yw fersiwn o Lyfr Blegywryd (ff. 1-93), ond ychwanegwyd ato gydiad o lawysgrif gyfreithiol arall (ff. 94-99), sydd yn enghraifft o esblygiad cyfeirlyfr cyfreithiol wrth iddo gael ei ddefnyddio o ddydd i ddydd. Cyfeirir at y dyddiad 1401 ar f. 97, sy’n golygu fod rhan ola’r llawysgrif wedi ei ysgrifennu ar ddechrau’r 15fed ganrif. Ymysg y testunau eraill yn y gwaith y mae copi o weddi ‘Emyn Curig’ (ff. 98-99v). Ni wyddom sut rwymiad oedd i’r gyfrol, ond tebyg mai cloriau llipa oedd iddi, er mwyn ei chludo’n hwylus gan gyfreithiwr neu ynad o amgylch llysoedd Arglwyddiaethau’r Mers.
Nid oes darluniau yn y gyfrol, ond gwneir defnydd o liwiau gwyrdd, coch a phiws i addurno priflythrennau, ac mae addurn main mewn inc coch yn ffinio’r testun ar bob tudalen. Yn anffodus, parodd yr asid yn yr inc gwyrdd i amryw o’r priflythrennau losgi trwy’r memrwn, gan achosi tyllau. Mae’r defnydd o inc piws yn anarferol mewn llawysgrif ganoloesol Gymraeg, ac mae safon yr addurno yn uchel.
Erbyn ail hanner yr 17eg ganrif, roedd y llawysgrif ym meddiant yr hynafiaethydd William Philips o Aberhonddu (f. 101v), fu farw yn 1686, ac fe’i hetifeddwyd gan ei fab o’r un enw. Ef a’i dangosodd i Edward Lhuyd (1659/60?–1709), a’i dalennodd, ac a ysgrifennodd ychydig nodiadau ynddi (ff. 2v a 6v). Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, yn ystod y 1720au, copïwyd y llawysgrif ar ran Moses Williams (1685–1742), a’r copi hwnnw bellach yw LlGC, Llanstephan MS 75. Bryd hynny, ymddengys mai dwy ddalen yn unig oedd yn eisiau o’r llawysgrif, ac roedd testun y dail yn gyflawn. Diflannodd y gyfrol wedi hynny, cyn ail-ymddangos yn llyfrgell Cymdeithas Hanes Massachusetts yn ninas Boston erbyn 1831. Ni wyddom sut y bu iddi groesi’r Iwerydd, ond gellir dyfalu iddi gael ei chludo gan ymfudwyr.
Yn anffodus, collwyd nifer o ddail y gyfrol, amryw o’r priflythrennau, ac un cydiad cyflawn, rhwng ei chopïo yng Nghymru ar ddechrau’r 18fed ganrif, a’i hail rwymo yn yr Unol Daleithiau tua 1840. Gellir tybio i hynny ddigwydd oherwydd datgymalu rhwymiad y gyfrol, crebachiad y memrwn oherwydd cyfnewidiadau hinsawdd, a’r arfer o dorri darnau o ddail gan gasglwyr.
Bu’r llawysgrif ym meddiant Cymdeithas Hanes Massachusetts am dros 150 mlynedd, hyd nes iddi gael ei gwerthu yn Sotheby’s, Llundain, ar 10 Gorffennaf 2012. Fe’i prynwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru gyda chymorth hael Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Eraill a gyfrannodd at y pryniant oedd Cyfeillion y Llyfrgelloedd Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru.
Oherwydd natur anaddas rhwymiad Americanaidd y gyfrol, a fygythiai ddifrod pellach i’r memrwn, penderfynwyd ei dadrwymo yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Hydref 2012. Yn sgil hynny, trwsiwyd pob dalen gyda memrwn newydd, gan atgyfnerthu amryw o’r priflythrennau. Digidwyd y dail yn gyflawn cyn ail-rwymo’r gyfrol rhwng cloriau derw yn gynnar yn 2013.
Cliciwch ar y ddolen i weld ffilm fer 'Dadrwymo Llawysgrif Hywel Dda'