Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

About NLW

Am LlGC

Adnau cyfreithiol ar gyfer cyhoeddiadau print


Mae adnau cyfreithiol yn bodoli yng nghyfraith Lloegr er 1662. Mae’n helpu sicrhau y caiff deunydd cyhoeddedig y genedl (ac felly ei chofnod deallusol a threftadaeth gyhoeddedig y dyfodol) ei gasglu’n systemataidd, er mwyn cadw’r deunydd at ddefnydd cenedlaethau’r dyfodol a sicrhau ei fod ar gael i ddarllenwyr yn y llyfrgelloedd adnau cyfreithiol penodedig.

 

Mae Deddf Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol 2003 yn berthnasol i unrhyw un sy’n cyhoeddi yn y Deyrnas Unedig. Yn achos gweithiau a gyhoeddir mewn print, mae’n cynnwys y categorïau canlynol:

 

  • llyfr (yn cynnwys pamffled, cylchgrawn neu bapur newydd),
  • dalen o argraffwaith neu gerddoriaeth,
  • map, cynllun, siart neu dabl, a
  • rhan o unrhyw waith o’r fath.

 

Rhaid adneuo pob cyhoeddiad newydd a phob argraffiad newydd o gyhoeddiad, a all gynnwys cywiriadau, newidiadau neu gynnwys ychwanegol. Ond nid oes rhaid adneuo ailargraffiadau syml. At hynny, nid oes rhaid i gyhoeddwyr adneuo’r categorïau deunydd canlynol oni wneir cais ysgrifenedig amdanynt gan lyfrgell adnau cyfreithiol:

 

  • Adroddiadau mewnol
  • Papurau arholiad
  • Amserlenni trafnidiaeth leol
  • Dyddiaduron apwyntiadau
  • Calendrau wal a desg
  • Posteri

 

Dylid nodi nad y ffaith fod eitem wedi cael Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol (ISBN) neu Rif Cyfnodolyn Safonol Rhyngwladol (ISSN) sy’n golygu bod rhaid ei hadneuo, ond y ffaith ei bod wedi’i chyhoeddi. Dyfernir bod gwaith wedi’i gyhoeddi pan fydd copïau ohono ar gael i’r cyhoedd. Does dim ots ym mhle y cafodd ei gyhoeddi neu ei argraffu, beth yw natur yr argraffnod na faint o gopïau a ddosbarthwyd. Y weithred o gyhoeddi neu ddosbarthu i’r cyhoedd yn y Deyrnas Unedig sy’n peri bod gwaith yn agored i’w adneuo.

 

I wybod mwy:

 

Rwy’n cyhoeddi’r un cynnwys mewn cyfryngau print a digidol; oes angen imi barhau i adneuo print?

Oes, os gwelwch yn dda, tan y byddwch wedi cofrestru’n llwyddiannus i adneuo’n ddigidol a bod y Llyfrgell Brydeinig neu lyfrgell adnau arall wedi sefydlu y gellir prosesu a chadw eich cynnwys digidol. Ein nod yw helpu cymaint o gyhoeddwyr ag sy’n bosibl i drosglwyddo o adneuo print i adneuo digidol, cyn gynted ag y bydd y systemau priodol ac adnoddau digonol yn eu lle.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 01-05-2013