Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

About NLW

Am LlGC

Sut i adneuo cyhoeddiadau print


Mae adnau cyfreithiol yn bodoli yng nghyfraith Lloegr er 1662. Rhaid adneuo pob cyhoeddiad newydd a phob argraffiad newydd o gyhoeddiad, a all gynnwys cywiriadau, newidiadau neu gynnwys ychwanegol.

 

Mae gan y Llyfrgell Brydeinig hawl i dderbyn, yn ddi-dâl, un copi o bob cyhoeddiad o fewn  mis i ddyddiad ei gyhoeddi. Rhaid i’r copi a adneuir fod “o’r un ansawdd â’r copïau gorau, ar adeg y cyflwyno, a gynhyrchwyd i’w cyhoeddi yn y Deyrnas Unedig” [Deddf Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol 2003].  Bydd y Llyfrgell Brydeinig yn cyhoeddi derbynneb am bob gwaith a adneuir.

 

Dylid anfon copïau i’r Llyfrgell Brydeinig i’r cyfeiriad isod:

 

Legal Deposit Office
The British Library
Boston Spa
Wetherby
West Yorkshire
LS23 7BY

 

Ffôn:  +44 (0)1937 546268 (monograffau)
+44 (0)1937 546267 (cyfnodolion)
+44 (0)1937 546409 (papurau newydd)

 

Ebost: legal-deposit-books@bl.uk (monograffau)

          legal-deposit-serials@bl.uk (cyfnodolion) 

          LDO.newspapers@bl.uk (papurau newydd)

 

Mae gan Lyfrgelloedd Bodleian, Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Coleg y Drindod Dulyn bob un hawl i dderbyn, yn ddi-dâl, un copi o bob cyhoeddiad y gofynnant amdano.

 

  • Rhaid gwneud cais ysgrifenedig (boed drwy fodd electronig neu arall) o fewn 12 mis i ddyddiad cyhoeddi’r gwaith. Gellir gwneud y cais cyn cyhoeddi’r gwaith a gall gynnwys holl rifynnau neu rannau’r dyfodol o wyddoniadur, papur newydd, cylchgrawn, cyfnodolyn neu waith arall.
  • Rhaid i’r copi a adneuir gael ei gyflwyno o fewn un mis i’r dyddiad cyhoeddi neu’r dyddiad y derbyniwyd y cais, pa un bynnag yw’r diwethaf.
  • Rhaid i’r copi a adneuir fod “o’r un ansawdd â’r nifer fwyaf o gopïau, ar adeg y cyflwyno, a gynhyrchwyd i’w cyhoeddi yn y Deyrnas Unedig” [Deddf Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol 2003].

 

Rhaid i’r copïau i’r llyfrgelloedd adneuo hyn gael eu danfon i gyfeiriad penodol. Ers blynyddoedd bellach maent wedi rhannu asiant ar gyfer gofyn am a derbyn gweithiau a adneuir:

 

The Agent
Agency for the Legal Deposit Libraries
161 Causewayside
Edinburgh
EH9 1PH

 

Ffôn:                     +44 (0)131 623 4680

 

Ebost:                   publisher.enquiries@legaldeposit.org.uk

 

 

      Gwefan:                  http://www.legaldeposit.org.uk/

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 30-04-2013