Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

About NLW

Am LlGC

Adneuo cyhoeddiadau cludadwy (fel CD-ROMs a microffilmiau)


Dan y gyfraith, rhaid i gyhoeddwyr pob cyhoeddiad print yn y Deyrnas Unedig roi copi i’r Llyfrgell Brydeinig, ac i bum llyfrgell fawr arall sy’n gofyn amdano. Adnau cyfreithiol yw’r enw ar y drefn hon a bu’n rhan o gyfraith Lloegr er 1662.

 

O 6 Ebrill 2013, mae adneuo cyfreithiol hefyd yn cynnwys deunydd a gyhoeddir yn electronig, fel y gall y Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol gynnal casgliad cenedlaethol o e-gylchgronau, e-lyfrau, newyddion, cylchgronau a mathau eraill o gynnwys a gyhoeddir yn ddigidol.

 

Ac eithrio tan 31 Mawrth 2014 ar gyfer gweithiau a gyhoeddir gan fusnesau newydd neu ficro-fusnesau sy’n cyflogi llai na 10 o bobl, mae gan y Llyfrgell Brydeinig hawl i dderbyn, yn ddi-dâl, un copi o bob gwaith a gyhoeddwyd neu a ddosbarthwyd yn y Deyrnas Unedig, o fewn  mis i ddyddiad ei gyhoeddi. Rhaid i’r copi a adneuir fod o’r ansawdd mwyaf addas ar gyfer cadw’r gwaith.  Bydd y Llyfrgell Brydeinig yn cyhoeddi derbynneb am bob gwaith a adneuir.

 

Ar gyfer gweithiau sydd yr un fath o ran sylwedd ond a gyhoeddir mewn cyfryngau print ac electronig, dim ond un cyfrwng sydd angen ei adneuo; dylai cyhoeddwr barhau i adneuo print, nes bydd y cyhoeddwr a’r llyfrgelloedd adnau ill dau wedi cytuno i drosglwyddo i adneuo’n electronig.

 

Ar gyfer cyhoeddiadau electronig mewn mwy nag un fformat, efallai y bydd angen cytuno pa fformat y dylid ei adneuo.

 

Rhaid i gyhoeddwr hefyd gyflwyno copi o unrhyw raglenni cyfrifiadur, yn cynnwys offer, llawlyfrau a gwybodaeth – fel metadata, manylion mewngofnodi, a modd i ddileu mesurau gwarchodaeth technegol DRM unigol – sy’n angenrheidiol er mwyn defnyddio a chadw’r cyhoeddiad. Mae gan y Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol drefniadau diogelwch ar wahân yn cyfyngu’r defnydd o ddeunydd a adneuir i’r gweithgareddau a ganiateir gan Reoliadau Llyfrgelloedd Adneuo Cyfreithiol (Gweithiau Di-Brint) 2013 yn unig.

 

Dylai copïau i’r Llyfrgell Brydeinig gael eu danfon i’r:

 

Digital Processing Team
The British Library
Boston Spa
Wetherby
West Yorkshire
LS23 7BY

 

Ffôn:     +44 (0)1937 546060 (Gwasanaethau Cwsmeriaid)

 

Ebost:   Customer-Services@bl.uk

 

Ac eithrio tan 31 Mawrth 2014 ar gyfer gweithiau a gyhoeddir gan fusnesau newydd neu ficro-fusnesau sy’n cyflogi llai na 10 o bobl, mae gan Lyfrgelloedd Bodleian, Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Coleg y Drindod Dulyn bob un hawl i dderbyn, yn ddi-dâl, un copi o bob gwaith a gyhoeddwyd neu a ddosbarthwyd yn y Deyrnas Unedig y gwnânt gais amdano.

 

  • Rhaid gwneud cais ysgrifenedig (boed drwy fodd electronig neu arall) o fewn 12 mis i ddyddiad cyhoeddi’r gwaith. Gellir gwneud y cais cyn cyhoeddi’r gwaith a gall gynnwys holl rifynnau neu rannau’r dyfodol o wyddoniadur, papur newydd, cylchgrawn, cyfnodolyn neu waith arall.
  • Rhaid i’r copi a adneuir gael ei gyflwyno o fewn mis i’r dyddiad cyhoeddi neu’r dyddiad y derbyniwyd y cais, pa un bynnag yw’r diwethaf.
  • Rhaid i’r copi a adneuir fod o’r ansawdd mwyaf addas ar gyfer cadw’r gwaith.

 

Rhaid i’r copïau i’r Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol hyn gael eu danfon i gyfeiriad penodol. Ers blynyddoedd bellach maent wedi rhannu asiant ar gyfer gofyn am a derbyn gweithiau a adneuir:

 

The Agent
Agency for the Legal Deposit Libraries
161 Causewayside
Edinburgh
EH9 1PH

 

Ffôn:                     +44 (0)131 623 4680

 

Ebost:                   publisher.enquiries@legaldeposit.org.uk

 

       Gwefan:                http://www.legaldeposit.org.uk/

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 01-05-2013