Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae adnau cyfreithiol yn bodoli yng nghyfraith Lloegr er 1662. Mae’n helpu sicrhau y caiff deunydd cyhoeddedig y genedl (ac felly ei chofnod deallusol a threftadaeth gyhoeddedig y dyfodol) ei gasglu’n systemataidd, er mwyn cadw’r deunydd at ddefnydd cenedlaethau’r dyfodol a sicrhau ei fod ar gael i ddarllenwyr yn y llyfrgelloedd adnau cyfreithiol penodedig.
Corff yw’r Cyd-bwyllgor ar Adnau Cyfreithiol (JCLD) sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r llyfrgelloedd adnau a chymdeithasau’r diwydiant cyhoeddi. Ei brif amcan yw hwyluso cydweithrediad rhwng cyhoeddwyr a llyfrgelloedd adnau er mwyn gweithredu trefniadau adnau statudol a gwirfoddol yn effeithiol. Mae ei waith yn cynnwys trafod polisïau casglu deunydd di-brint, dod i gytundeb ar gwestiynau dehongliad, asesu datblygiadau newydd ar y cyd, a sefydlu cynlluniau peilot technegol neu gynlluniau gwirfoddol lle bo’n briodol.
Cylch gorchwyl y Cyd-bwyllgor
Daw’r Cyd-bwyllgor â chynrychiolwyr y cyhoeddwyr a’r llyfrgelloedd adnau ynghyd i hwyluso gweithrediad effeithiol adnau cyfreithiol. Dyma’i swyddogaethau:
Mae aelodau’r Cyd-bwyllgor ar Adnau Cyfreithiol yn cynrychioli neu’n cyfrannu safbwyntiau ar ran grŵp arbennig. Dyma’r aelodau cyfredol:
| Aelod | Sefydliad |
| Cyd Gadeiryddion | |
| Angela Mills Wade | Fforwm Cynnwys y Cyhoeddwyr |
| Phil Spence | Y Llyfrgell Brydeinig |
| Cynrychiolwyr llyfrgelloedd adneuo cyfreithiol | |
| Catriona Cannon | Llyfrgelloedd Bodleian |
| Lucie Burgess | Y Llyfrgell Brydeinig |
| Patricia Killiard | Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt |
| Martyn Wade/Darryl Mead | Llyfrgell Genedlaethol yr Alban |
| Avril Jones | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
| Margaret Flood | |
| Cynrychiolwyr cyhoeddwyr | |
| Chris Fell | Association of Learned and Professional Society Publishers |
| I’w gyhoeddi | Association of Online Publishers |
| Carol Tullo | Rheolwr Gwasg Ei Mawrhydi ac Argraffydd y Frenhines |
| Anne Joseph | International Association of Scientific, Technical & Medical Publishers |
| Sarah Davis | Newspaper Publishers Society |
| Catherine Courtney | Newspaper Society |
| Andrew Yeates | Professional Publishers Association |
| Trevor Fenwick | P.P.A. Business Media Group (Data & Digital Publishing) |
| Hugh Jones | Publishers Association |