Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Falcon Hildred - Capel Gwylfa 'Saint Duckhams', Blaenau Ffestiniog

Worktown: Lluniadau Falcon Hildred

 

14 Medi - 14 Rhagfyr 2013

 

Ers diwedd y 1950au, nod Falcon Hildred fu gwneud cofnod gweledol o adeiladau diwylliant diwydiannol a oedd yn prysur ddiflannu. Mewn llawer o ardaloedd, roedd yr hen ddiwydiannau’n methu, roedd cymunedau a oedd wedi’u hen sefydlu yn cael eu disodli gan gynlluniau tai enfawr ac roedd ailddatblygu trefol uchelgeisiol yn dechrau gafael. Ni allai Falcon wneud fawr ddim i atal hyn, ond fel dylunydd a darlunydd medrus gallai o leiaf sicrhau na fyddai adeiladau o bwys hanesyddol yn diflannu heb i ryw gofnod gael ei wneud ohonynt.

Cafodd Falcon Hildred ei eni yn Grimsby ym 1935, aeth i golegau celf yn Coventry a Birmingham, ac yna i’r Coleg Celf Brenhinol yn Llundain. Ers 1969 bu’n byw ym Mlaenau Ffestiniog. Yn ystod yr hanner can mlynedd ddiwethaf mae wedi cofnodi llu o adeiladau a thirweddau yn ei luniadau manwl ond atgofus. Mae wedi’i ysgogi gan y gred bod adeiladau’n adlewyrchu bywydau’r bobl sydd wedi’u hadeiladu, wedi’u defnyddio ac wedi byw ynddynt. Yn ei eiriau ei hun:

Y peth am adeiladau yw eu bod nhw’n ymwneud â phobl. [...] Mae popeth a wnawn mewn bywyd naill ai’n cael ei wneud mewn neu o gwmpas adeiladau. Byddwn yn dathlu, yn addysgu, yn byw, yn gweithio, yn gwella, yn cystadlu, yn storio – byddwn yn gwneud popeth mewn neu o gwmpas adeiladau, ac maen nhw felly yn ymgorffori ein holl anghenion, ein holl obeithion, ein credoau, ein hofnau [...]. Nhw yw symbolau’r hyn sydd ei eisiau arnom a’r hyn a gredwn. Felly y perygl ydyw, pan ddinistriwn adeilad, ein bod ni hefyd yn dinistrio rhyw elfen ohonom ni ein hunain.



Prosiect Mynediad a Dysgu Falcon Hildred


Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, gan weithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Amgueddfa Ceunant Ironbridge, a chyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri, wedi prynu casgliad unigryw o fwy na 600 o luniadau gwreiddiol o adeiladau a thirweddau diwydiannol gan Falcon Hildred. Mae Falcon Hildred wedi cysegru ei fywyd fel artist i gofnodi adeiladau a thirweddau diwydiant y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, gan gynhyrchu gwaith o werth esthetig, hanesyddol a chymdeithasol mawr.

Pwrpas Prosiect Mynediad a Dysgu Falcon Hildred yw diogelu’r adnodd gwerthfawr hwn er mwynhad y cenedlaethau a ddaw, a hwyluso mynediad i’r casgliad drwy raglen gydgysylltiedig o ddigido, cyhoeddi, arddangos ac addysgu ar hyd a lled Cymru a Lloegr.

I ddarganfod mwy, ewch i www.cbhc.gov.uk , neu astudiwch y llyfr, Worktown: the Drawings of Falcon Hildred

 

Digwyddiad -

 

16 Hydref 2013: 1:15pm

 

Daw Peter Wakelin, Ysgrifennydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru i sgwrsio am Falcon Hildred, yr arlunydd o Flaenau Ffestiniog. Gydol ei yrfa mae’r arlunydd medrus hwn wedi ymroi i gofnodi adeiladau a thirweddau diwydiannol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Mae wedi cynhyrchu gwaith o arwyddocâd esthetig, hanesyddol a chymdeithasol, sydd bellach wedi’i gaffael gan y Comisiwn Brenhinol ac yn cael ei arddangos yn y Llyfrgell ar hyn o bryd.

 

Mynediad am ddim trwy docyn - ffôn 01970 632548 neu ar-lein

 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 23-09-2013