Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Llyfr Du Caerfyrddin

4 Llyfr: Eiconau Cymraeg Ynghyd

12 Hydref – 15 Mawrth 2014

 

Cyfle prin i weld llawysgrifau canoloesol pwysicaf Cymru oll o dan yr un to.

 

Yn ei gyfrol Four Ancient Books of Wales (1868), rhoddodd yr ysgolhaig Celtaidd blaengar William Forbes Skene gynnig ar olrhain y ffeithiau hanesyddol ymhlith y chwedlau a’r storïau dychmygol yng ngwaith y beirdd Cymraeg cynnar. Am y tro cyntaf erioed byddwn yn dod â’r pedwar trysor a ddisgrifiodd Skene at ei gilydd mewn arddangosfa sy’n dathlu llenyddiaeth gynharaf Cymru: Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Taliesin o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llyfr Aneirin o Lyfrgell Ganolog Caerdydd a Llyfr Coch Hergest o Goleg yr Iesu, Rhydychen.

 

Paneli Gwybodaeth

 

Digwyddiadau -

 

18 Hydref 2013: 1.15pm

 

The Red Book of Hergest - Yr Athro Thomas Charles-Edwards sy'n bwrw golwg agos ar gynnwys ac arwyddocâd un o lawysgrifau canoloesol pwysicaf Cymru.

 

Mynediad am ddim trwy docyn - ffôn 01970 632548 neu ar-lein

 

 

27 Tachwedd 2013: 1.15pm

 

Y Gododdin- Gwyn Thomas Gwyn Thomas fydd yn cynnig rhai sylwadau am ein hen ganu cynharaf ac am gyfieithu’r testun.

 

Mynediad am ddim trwy docyn - ffôn 01970 632548 neu ar-lein

 

 

22 Ionawr 2013: 1.15pm

 

A look at the Taliesin - Marged Haycock

 

Mynediad am ddim trwy docyn - ffôn 01970 632548 neu ar-lein

 

 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 27-09-2013