Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Ni ddeuai David Lloyd George o gefndir arbennig o freintiedig, ond serch hynny daeth yn Brif Weinidog Prydain ym mis Rhagfyr 1916, pan oedd y Rhyfel Mawr yn ei anterth. Hyd heddiw, ef yw’r unig Gymro i wasanaethu yn y swydd hon. Yn yr arddangosfa hon o’i ddyddiaduron a’i lythyrau cewch weld cymysgedd ddifyr o newyddion o’r byd gwleidyddol wedi’i blethu’n gelfydd â chlecs personol a theuluol. Bydd hefyd ffilmiau i’w gweld o gasgliad yr Archif Sgrin a Sain Genedlaethol, yn ogystal ag eitemau personol o gasgliad Amgueddfa Lloyd George.
Ceir casgliad o glipiau o ffilmiau'n ymwneud â bywyd a gwaith David Lloyd George yma. Mae'r holl ffilmiau yn rhan o gasgliadau Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.
1 Tachwedd 2013: 5.30pm
Darlith Flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig - ‘Cenedl y Cymry yn y Deyrnas Unedig’ Yr Arglwydd Morris o Aberafan Un o wleidyddion amlycaf Cymru yn hel atgofion am ei yrfa wleidyddol ddisglair. Y diweddaraf yn y gyfres nodedig hon o ddarlithoedd cyhoeddus.
Mynediad am ddim trwy docyn - ffôn 01970 632548 neu ar-lein