Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
JMW Turner, Dolbadarn Castle

Tirlun Cymru

 

19 Hydref - 10 Mai 2014

 

Codi’r clawr ar gasgliad helaeth y Llyfrgell o baentiadau a darluniau topograffigol.

 

I arlunwyr sydd am dynnu lluniau o olygfeydd prydferth a thrawiadol, mae tirffurfiau Cymru yn wastad wedi bod yn atyniad cryf. Mae’r hen gestyll a’r abatai a mynyddoedd godidog Cymru wedi bod yn boblogaidd gydag arlunwyr a ffotograffwyr ar hyd y canrifoedd.


Yn ysblander Oriel Gregynog y Llyfrgell datgelir casgliad swmpus o baentiadau a darluniau topograffigol, yn dangos ymateb gwahanol arlunwyr i’r dirwedd gyda threigl amser. Wrth gael golwg fanwl ar y mannau hardd yr ydym oll yn gyfarwydd â hwy, ochr yn ochr â’r golygfeydd diwydiannol a threfol sy’n ein hamgylchynu bellach, gallwn weld y newid parhaus yn ein tirwedd drwy lygaid yr artistiaid.

 

'P'run fyddech chi yn ei ddewis?

J.C. Ibbetson, Return from Market - Castell Coch, c.1808
neu
David Tress, A Bright Day (Pen Castell Coch), 2006

Mae ein Curadurwyr yn cael trafferth penderfynu pa olygfa o Castell Coch i'w gynnwys yn ei arddangosfa newydd Tirlun Cymru.

Allwch chi helpu?
Bydd yr olygfa gyda'r mwyaf o 'likes' yn cael ei arddangos yn yr arddangosfa mis nesaf.

Pleidleisiwch nawr ar ein tudalen Facebook

 

Digwyddiad -

 

6 Tachwedd 2013: 1.15pm

 

A Drawing of Pembroke Castle by Richard Wilson (1713-1782) - Dr Paul Joyner Roedd Richard Wilson yn ddrafftsmon dyfeisgar a deallus. Yn y cyflwyniad hwn rhoddir sylw ar ei arddull fel darlunydd a'r gwaith ganddo mewn rhai casgliadau eraill, Bydd trafodaeth yn dilyn am ei ddarlun mewn pensel o Benfro sydd yng nghasgliad y Llyfrgell Genedlaethol – llun a dynnodd yn y fan a’r lle. Mae’r olygfa hon o Gastell Penfro yn amlygu bwriad yr arlunydd i greu tirluniau o’r radd flaenaf yng Nghymru.

 

Mynediad am ddim trwy docyn - ffôn 01970 632548 neu ar-lein

 

 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 20-09-2013