Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gall unrhyw un dros 16 oed wneud cais am docyn darllen. Mae tocynnau darllen yn ddilys am 3 mlynedd, ac yn galluogi darllenwyr i gael mynediad i'n holl gasgliadau.
I fedru cael tocyn darllen llawn rhaid dangos dau brawf adnabod, gydag un ohonynt yn dangos eich cyfeiriad cyfredol.
Mae ymwelwyr o dan 16 oed yn medru gwneud cais i ymweld â rhai ardaloedd o'n ystafelloedd darllen o dan amodau penodol.
Medrwch gofrestru arlein cyn eich ymweliad fel cam cyntaf i ddod yn ddarllenydd. Bydd hyn yn hwyluso'r broses pan fyddwch yn ymweld â ni yn bersonol.
Byddwch yn derbyn eich manylion cofrestru yn syth, a medrwch eu defnyddio i archebu deunydd o'n catalog cyflawn cyn eich ymweliad.
Mae aelodaeth ar-lein hefyd yn medru caniatau mynediad i adnoddau allanol y Llyfrgell, sef adnoddau mae'r Llyfrgell yn tanysgrifio iddynt. Mae hyn yn bosibl drwy nawdd a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru, ac i gael mynediad, mae felly angen i chi gael cyfeiriad yng Nghymru neu gôd post Cymreig.
Gallwch adnewyddu eich tocyn darllen a chadw'r rhif tocyn presennol drwy ymweld â'r Llyfrgell.
Darllenwch y canlynol cyn arwyddo'ch tocyn darllen os gwelwch yn dda: