100. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. The National Library of Wales. Aberystwyth.100. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. The National Library of Wales. Aberystwyth.

Collections

Casgliadau

Casgliadau


Gabriel yn cyfarch y Bugeiliaid, allan o Lyfr Oriau De Grey, llsgr. NLW 15537C, f. 67
Gabriel yn cyfarch y Bugeiliaid, allan o Lyfr Oriau De Grey, llsgr. NLW 15537C, f. 67

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cadw amrywiaeth eang o wahanol ddeunyddiau o fewn ei chasgliadau, o lyfrau, cyfnodolion a phapurau newydd i lawysgrifau, mapiau, ffotograffau, peintiadau, archifau, ffilmiau cryno ddisgiau ac adnoddau electronig.

 

Rydym hefyd yn cadw casgliad anferth o ddeunyddiau sy’n berthnasol i Gymru a’r Gwledydd Celtaidd.

 

Am ragor o wybodaeth am rai o’n casgliadau, dewiswch deitl o’r rhestr ar y chwith, neu chwiliwch ar ein catalog arlein.

 

 

Edrych ar gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

Er mwyn cael mynediad i’n casgliadau bydd angen tocyn darllen Llyfrgell Genedlaethol Cymru dilys arnoch. Bydd hwn yn rhoi mynediad i’n Hystafelloedd Darllen i chi, ac yn caniatáu i chi archebu eitemau i’w harchwilio drwy ein catalog arlein.

 

Mae rhai o’n casgliadau wedi eu digido a gellir eu mwynhau drwy gyfrwng ein gwefan ar y Drych Digidol. Mae’r casgliad arlein hwn yn tyfu’n barhaus, felly cofiwch ymweld ag ef yn aml er mwyn gweld ychwanegiadau newydd a chyffrous o’n casgliadau.

 

 

Casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

Dechreuodd casgliadau’r Llyfrgell gyda sefydlu casgliad Cymreig yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth. Ychwanegwyd ato gan rodd Syr John Williams, meddyg a chasglwr llyfrau. Addawodd roi ei gasgliad helaeth (dros 26,000 o lyfrau a llawysgrifau) i Lyfrgell Genedlaethol Cymru petai’n cael ei lleoli yn Aberystwyth.

 

Oddi ar 1911 mae’r Llyfrgell wedi mwynhau’r hawl i gasglu copi o bob gwaith printiedig a gyhoeddir yn y DU ac Iwerddon. Mae ein casgliadau hefyd yn tyfu drwy bwrcasiadau a rhoddion caredig gan unigolion a sefydliadau fel ei gilydd.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2007

Diweddarwyd: 09-03-2007