Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Visit Us

Ymweld a Ni

Hygyrchedd


Ymwelwyr yn defnyddio’r lifft

Hygyrchedd yr Adeilad

 

Parcio

Mae 7 lle parcio wedi eu neilltuo gan y Llyfrgell:-

  • 4 wedi eu lleoli yn y maes parcio wrth ochr yr adeilad, wrth y groesfan
  • 3 wedi eu lleoli wrth ochr yr adeilad gyferbyn â allanfa'r maes parcio newydd

 

 

 

Mynedfa

 

Gall pobl ag anhawster symudedd ddefnyddio'r fynedfa ar y llawr gwaelod, sydd wedi ei leoli ym mlaen yr adeilad. Mae esgynfa a drysau awtomatig yn galluogi mynediad hawdd i'r adeilad.

 

 

Anifeiliaid

 

Mae croeso i gŵn cymorth yn yr adeilad gyda'u perchnogion. Mae dŵr ar gael i'r cŵn wrth fynedfa'r llawr gwaelod.

 

 

Cadair Olwyn

 

Mae 3 cadair olwyn ar gael i'w menthyg i'r cyhoedd o'r fynedfa ar y llawr gwaelod. Gofynwch i un o'r porthorion am gymorth wrth y drws.

Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â'r llyfrgell cyn eich ymweliad, er fod staff ar gael trwy'r llyfrgell i'ch cynorthwyo pe bai angen

Cystylltwch â ni ar 01970 632 906 neu 01970 632 532

 

 

Lifft

 

Mae lifft wedi ei leoli i'r dde (wrth y siop) wedi i chi ddod i mewn i'r adeilad. Fe fydd yn eich cludo i

 

  • Llawr 0 (prif lawr, uwchben mynedfa'r llawr gwaelod) lle mae'r dderbynfa yn syth o'ch blaen ac ar yr ochr dde, a'r stafelloedd darllen
  • Llawr 1 lle mae Galeri Arddangos Gregynog


Ceir hefyd arddangosfeydd ar y llawr gwaelod, trowch i'r dde yn syth wedi'r siop

 

Prif fynedfa Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

 

Toiledau

 

Mae 3 toiled mynediad arbennig wedi eu lleoli o gwmpas y Llyfrgell

  • Llawr gwaelod, syth ymlaen o'r siop a throi i'r dde ar y pen
  • Llawr gwaelod y tu ôl i'r grisiau wrth fynedfa Arddangosfa Peniarth
  • Llawr 0 (1 llawr i fyny o fynedfa'r llawr gwaelod) wrth ben y grisiau



Ymholiadau a Mynediadau

 

Mae taflenni gwybodaeth ar gael mewn ffurfiau arbennig

  • Taflenni print mawr
  • Taflenni clywedol (gyda chwaraewyr tapiau ar gael o'r dderbynfa)

Mae holiaduron ynglyn â gwasanaethau'r llyfrgell hefyd ar gael mewn print bras

Mae gan bob desg ymholiadau rannau isel i alluogi mynediad i ddefnyddwyr cadair olwyn, a dolen glyw.

 

 

Ardaloedd Arddangosfeydd a Digwyddiadau

 

Mae ffolderi ar gael yn yr ardaloedd arddangosfeydd, yn cynnwys y capsiynau mewn print bras. Mae croeso i ymwelwyr fynd a'r rhain o amgylch yr arddangosfeydd gyda hwy, i ddarllen y capsiynnau tra'n edrych ar y gwrthrychau. Mae'r capsiynau hefyd wedi eu gosod ar lefel isel o amgylch yr arddangosfeydd i sicrhau fod defnyddwyr cadair olwyn yn gallu eu darllen. Mae'r blychau arddangos isel wedi eu defnyddio ym mhob arddangosfa, lle y bo modd. Mae cadeiriau wedi eu gosod yng Ngaleri Gregynog ac o gwmpas y sgrin 'plasma' yn Ystafell Peniarth

 

 

 

Siop a Bwyty

 

Mae siop y llyfrgell wedi ei leoli ar y chwith i'r fynedfa ar y llawr gwaelod. Mae hefyd yn bosib gweld cynnyrch y siop a'u prynu o'r siop arlein. Os hoffech gysylltu â'r siop ffoniwch 01970 632 548.

Mae bwyty Pen Dinas hefyd wedi ei leoli ar y llawr gwaelod ar y dde i'r fynedfa. Mae ar agor rhwng 9:30-4:45, ac yn darparu brecwast, cinio a thê. Os hoffech ymweld fel grŵp, cysylltwch os gwelwch yn dda â Angharad Medi Jones ar 01970 632 801 neu gwasanaethau-ymwelwyr@llgc.org.uk

 

 

Canllawiau Mewn Argyfwng

 

Mewn achos o argyfwng/gwagio'r adeilad ar frys, os yw hi'n saff i wneud, dylai ymwelwyr anabl adael y llyfrgell trwy'r un drws ac y ddaethant i mewn (llawr gwaelod).

Os oes ymwelwyr anabl ar y llawr cyntaf, ni ddylid defnyddio'r lifft mewn unrhyw achos, yn hytrach dylid hysbysu aelod o staff am eu presenoldeb.

Mae dau gilfan argyfwng ar gael i ddefnyddwyr cadair olwyn ar y prif lawr (llawr 0). Maent wedi eu lleoli

  • Yn ardal y grisiau yng nghefn ystafell ddarllen y de
  • Yn y linc i stac lyfrau 1 o ystafell y gogledd


Dylai unigolion hysbysu aleod o staff am eu presenoldeb.

 

 

Defnyddio'r Ystafelloedd Darllen

 

 

Ystafell Ddarllen y De (Deunydd Di-Brint)

 

Cyfarpar Perthnasol:-

  • Chwydd wydr ar gael i fenthyg o'r ddesg ymholiadau
  • Peiriant darllen y sgrin (Supernova) sydd yn chwyddo testun a lluniau, rheoli lliw a glöywder yn unol â gofynion y defnyddiwr. Mae'n darllen neu sillafu allan unrhyw destyn o'r sgrin: dogfennau, gwefannau, e-byst a.y.y.b. yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae croeso i ddarllenwyr ddod a'u 'Braille pads' gyda nhw i'r Llyfrgell, a'u cysylltu i'r darllenwyr sgrin.
  • Bigkeys Keyboard. Gofynnwch wrth ddesg ymholiadau Ystafell y De (deunydd di-brint) am fwy o wybodaeth
  • BigTrac Mouse. Gofynwch wrth ddesg ymholiadau Ystafell y De (deunydd di-brint) am fwy o wybodaeth.
  • ScannaR Peiriant scanio testun (ScannaR) sydd yn darllen testun unrhyw ddogfen yn uchel mewn eiliadau. Gellir rheoli cyflymder a lefel y sain, a dewis o'r ieithoedd canlynol - Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg neu Sbaeneg.
  • Chwyddwydr Fideo (Smartview). Cymorth gwelediad isel yw'r chwyddwydr fideo SmartView. Mae'n chwyddo eitemau, gweithredoedd a thestun ar sgrin arddangos.
  • Chwyddwydr Testun (Aversion 300). Mae'r peiriant hwn wedi ei leoli yn ardal ddiogel Ystafell Ddarllen y De. Gall chwyddo'r testun a'i arddangos ar y monitor.

Ystafell Ddarllen y Gogledd (Deunydd Print)

 

Cyfarpar Perthnasol:-

  • Chwydd wydr ar gael i fenthyg o'r ddesg ymholiadau
  • Peiriant darllen y sgrin (Supernova) sydd yn chwyddo testun a lluniau, rheoli lliw a glöywder yn unol â gofynion y defnyddiwr. Mae'n darllen neu sillafu allan unrhyw destyn o'r sgrin: dogfennau, gwefannau, e-byst a.y.y.b. yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae croeso i ddarllenwyr ddod a'u 'Braille pads' gyda nhw i'r Llyfrgell, a'u cysylltu i'r darllenwyr sgrin.
  • Cyfrifiadur â sgrin 21", wedi ei leoli ym mhen pellaf yr ystafell gatalog, gogyfer â darllenwyr â nam ar eu golwg i chwilio catalogau'r Llyfrgell. Ynghlwm â sgrin y cyfrifiadur hwn ceir chwyddwydr testun (Aversion 300) sydd yn gallu chwyddo testun a'i arddangos ar y sgrin 21".
  • Chwyddwydr Fideo (Smartview). Cymorth gwelediad isel yw'r chwyddwydr fideo SmartView. Mae'n chwyddo eitemau, gweithredoedd a thestun ar sgrin arddangos. Lleolir y peiriant hwn yn yr ystafell gatalog.

Ardaloedd o ddiddordeb:-

 

  • Mae bwrdd rhif 12 wedi ei glustnodi ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. Mae wedi ei leoli gyferbyn â'r drysau awtomatig.
  • Uned llungopïo. Yma gellir chwyddo llungopïau o faint A4 i A3 i hwyluso'u darllen.
  • Ceir byrddau â socedi wedi eu clustnodi i ddefnyddwyr gluniaduron, yn rhan orllewinol Ystafell y Gogledd, yn yml y byrddau papur newydd. Ni chaniateir sganio unrhyw ddeunydd o'r Llyfrgell.
  • Gellir defnyddio Ystafell Erina Morris i chwarae tapiau a defnyddio peirianau sain, os nad yw'r ystafell yn cael ei defnyddio gan ddarllenwyr eraill ar y pryd. Gofynnwch wrth y ddesg ymholiadau cyn defnyddio'r ystafell i'r perwyl hwn os gwelwch yn dda.

Gwybodaeth ddefnyddiol:-

 

  • Ar y catalog cyfrifiadurol OPAC, gallwch chwilio am eiriau fel 'print bras', fe fydd hyn yn cynnig rhestr o lyfrau sydd wedi eu cyhoeddi mewn print bras neu lyfrau sy'n trafod gweithiau print bras.
  • Mae silffoedd agored yr ystafell ddarllen yn cynnwys nifer o gyfeirlyfrau a all fod o gymorth. Mae dosbarth H er enghraifft yn cynnwys y 'Dictionary for disabled people' (HV3024.67) a 'How to get equipment for disability' (HV1559.67).
  • Mae gan y Llyfrgell gasgliad o 'lyfrau llafar' yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, yngyd â pheiriannau i wrando arnynt. Ceir hefyd gatalog o dapiau sain Cymraeg i rai â nam ar ei golwg, gan gynnwys rhai awduron yn darllen eu gwaith. Rhaid archebu unrhyw ddeunydd o'r Archif Sgrin a Sain oleiaf 24 awr ymlaen llaw.

Archif Sgrin a Sain

 

  • Mae'r ystafelloedd gwylio a gwrando yn hollol hygyrch.



DRWM

 

Mae cynnig amgylchedd groesawgar yn egwyddor pwysig y tu ôl i brofiad y DRWM. Rydym yn frwd iawn ynglyn â sicrhau fod eich ymweliad yn un hawdd a phleserus iawn.

  • Mae'r DRWM wedi ei leoli ar y llawr gwaelod, ar yr un lefel â'r fynedfa. Trowch i'r dde yn syth wedi'r siop, ac yna i'r dde wrth y grisiau, ac mae mynedfa'r DRWM ar eich chwith.
  • Cownter isel a system 'loop' yn y swyddfa docynnau.
  • Mae yna ddrws llydan i sicrhau hygyrchedd i gadair olwyn.
  • Gellir symud 4 cadair yn ôl yr angen i sicrhau lle i gadair olwyn.
  • Mae system sain is-goch yn y DRWM, a thrwy ddefnyddio clustffôn y DRWM y ceir y sain gorau (gofynnwch i aelod o staff wrth fynd i mewn i'r DRWM). Fel arall, gellir troi eich cymorth clywed i'r pwynt T.
  • Croesawir cŵn cymorth yn y DRWM
  • Lleolir 2 doiled mynediad arbennig ar yr un llawr â'r DRWM (llawr gwaelod)
  • Mae 3 cadair olwyn ar gael i'w defnyddio o'r fynedfa ar y llawr gwaelod.

 

Am fwy o fanylion ynglyn â mynediad i'r DRWM cysylltwch â ni ar 01970 632 534.

 

Gwybodaeth bellach

 

Os oes gennych fwy o anghenion neu yr hoffech fwy o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni


Rhif Ffôn: +44 (0)1970 632 800

Fax: +44 (0)1970 615 709

E-bost: swyddog.hygyrchedd@llgc.org.uk

Ymholiadau cyffredinol: Ffurflen ymholiadau

Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru: agssc@llgc.org.uk

 

Er mwyn cydymffurfio â dyletswydd gyffredinol y Llyfrgell dan y ddeddfwriaeth berthnasol ar gyfartaledd cyfle, mae'r uchod wedi ei ystyried a'i gymeradwyo gan Grwp Cyfleoedd Cyfartal Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 05-04-2013