Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Problem enfawr sy’n wynebu hirhoedledd llyfrau yw effaith yr asidedd a geir mewn papur.
Golygfa gyffredin yw cyfrolau sydd â’u tudalennau wedi breuo a brownio oherwydd effaith asidedd. Digwydd hyn gan amlaf mewn papur a wnaed allan o fwydion coed sy’n cynnwys lefel uchel o ‘lignin’, sef elfen asidig iawn a geir mewn amryw o blanhigion.

Cyn yr 1850au, cotwm oedd prif elfen papur (rag paper). Lefel isel iawn o ‘lignin’ sydd mewn cotwm, ac felly, mae’r papur a gynhyrchwyd cyn y dyddiad hwn yn parhau mewn cyflwr cymharol dda a sefydlog. Yn anffodus, nid oedd modd cynhyrchu digon o bapur ‘rag’ i gyd-fynd â’r cynnydd mewn llythrennedd a’r galw cynyddol am lyfrau yn ystod y 19eg ganrif. I gyflenwi’r galw, llwyddwyd i wneud papur allan o fwydion coed ar raddfa eang, ac o’r 1850au ymlaen, mwydion coed oedd prif gynnwys y rhan fwyaf o’r llyfrau a gyhoeddwyd. Canlyniad hyn yw’r broblem enfawr a wynebwn heddiw o lyfrau bregus gyda’u tudalennau wedi brownio a breuo ac yn chwalu’n ein dwylo.

Mae modd trin papur asidig, ac fe wneir hyn ar raddfa fechan yn Uned Triniaeth Cadwraeth y Llyfrgell, ond mae’n broses arbenigol a drud iawn. Y ffordd orau i ddelio â llyfrau â’r broblem hon yw trwy eu trin yn ofalus a’u cadw dan yr amodau amgylcheddol cywir (gweler Tymheredd a Lleithder). Ni fydd hyn yn cael gwared â’r asidrwydd, ond fe ddylai’r broses ddadfeilio arafu’n sylweddol.
Problem arall nad yw'n amlwg i bawb yw nwyon asidig (peroxides) sy'n cael eu rhyddhau o bren ac o ddeunyddiau adeiladu a dodrefnu modern fel pren ‘ply’ a ‘chipboard’ ayb. Gall dogfen sy'n cael ei chadw ar silff o bren noeth gael ei staenio a'u breuo'n arw dros gyfnod o amser. Dylid selio pren o'r fath gyda sawl côt o farnais polyurethane.