Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Digital Mirror

Drych Digidol

Llawysgrif gan Gutun Owain

(Llsgr. NLW 3026C)

 


Bu'r llawysgrif hon a luniwyd rhwng 1488 a 1489 yn rhan o gasgliad teulu Mostyn a chyfeirir ati weithiau dan ei hen enw, Mostyn MS 88. Llawysgrif femrwn gyda rhwymiad cain o femrwn gwyn ydyw. Mae'r llawysgrif yn ei stad bresennol yn cynnwys cydiadau o femrwn wedi eu rhwymo â thair dalen bapur i ffurfio pedwar plyg. Yn ôl safonau llawysgrifau Cymreig y cyfnod mae'r memrwn o ansawdd arbennig o dda ac yn wahanol i'r mwyafrif o lawysgrifau Cymreig yr oesoedd canol mae'n cynnwys darluniau lliwgar. Mae'n debyg, felly, y crëwyd hi ar gyfer unigolyn neu fynachlog gyfoethog.

'Dyn y Sidydd', tud. 26

 

 

Cynnwys

 

Mae'r cynnwys fel a ganlyn :

Tud 1-7 : nodiadau ar faterion astrolegol gan gynnwys tablau.
Tud 9 : volvella y lleuad. Dyfais symudol ar gyfer lleoli'r haul a'r lleuad yn y sidydd oedd volvella.
Tud 10 : tablau eglwysig ar gyfer cyfrif dyddiadau gwyliau symudol y flwyddyn Gristnogol.
Tud 11 : siart yn dangos gwahanol rannau o'r corff i'w gwaedu ar gyfer gwahanol afiechydon.
Tud 12 : siart o'r planedau.
Tud 13-24 : calendr o ddyddiau saint.
Tud 25 : tabl eglwysig tebyg i'r tabl ar dudalen 10.
Tud 26 : 'Dyn y Sidydd' - diagram o gorff dynol a symbolau astrolegol a chyfarwyddiadau'n esbonio pwysigrwydd astroleg o safbwynt meddygol.
Tud 26 : cyfres o ddoetheiriau rhifyddol yn ymwneud â meddygaeth.
Tud 27 : tabl astrolegol.
Tud 28 : siart yn dangos lliwiau troeth a beth y maent yn golygu.
Tud 29-36 : traethawd am liwiau troeth a'u pwysigrwydd.
Tud 37-62 : buchedd Martin Sant.
Tud 63 : achau a hanes o Adda ac Efa hyd Asclobitotus (anorffenedig).

Cymysgedd o destunau'n ymwneud ag astroleg a meddygaeth a geir yn rhan gyntaf y llawysgrif. Yr oedd y cyfuniad yma yn gyffredin mewn llawysgrifau ar hyd a lled Ewrop erbyn y bymthegfed ganrif. I bobl yr Oesoedd Canol roedd cysylltiad agos rhwng amser y flwyddyn, tymhorau'r lleuad a ffactorau astrolegol eraill a iechyd a thriniaeth feddygol gan y byddent yn effeithio ar hiwmorau'r corff. Roedd y gred bod y corff dynol yn cynnwys pedwar 'hiwmor' (tud. 35) yn parhau ers cyfnod y Groegiaid. Byddai gwahanol ffactorau'n effeithio ar y cydbwysedd rhwng yr hiwmorau gan achosi afiechyd.

 

 

Buchedd Martin

 

Ail destun y llawysgrif yw 'Buchedd Martin', sef hanes bywyd Martin o Tours, nawdd sant Ffrainc ar y pryd. Daeth cwlt y sant i Brydain yn ystod yr Oesoedd Canol cynnar ac fe'i cryfhawyd gan y Goncwest Normanaidd. Cafodd ddylanwad yng Nghymru ac fe gysegrwyd eglwys Llanfarthin ger Croesoswallt iddo.

 

 

Achau

 

Testun achyddol anghyflawn yw rhan olaf y llawysgrif. Mae'n dechrau drwy restru'r llinachau beiblaidd. Mae'r ail ran yn dilyn hanes disgynyddion Brutus a'r rhan olaf yn rhestru brenhinoedd Prydain yn dilyn gwaith Sieffre o Fynwy.

 

 

Gutun Owain

 

Ysgrifennwyd rhan helaethaf y llawysgrif, sef tt. 9-83, gan Gutun Owain. Fe'i ganed i deulu uchelwrol yn Arglwyddiaeth Croesoswallt a'i enw bedydd oedd Gruffydd ap Huw ab Owain. Bu'n ddisgybl i Dafydd ab Edmwnd (fl. 1450-97) a dywedir bod y ddau fardd yn bresennol yn Eisteddfod Caerfyrddin yn 1450. Adwaenir ef yn bennaf fel bardd ond yr oedd yn hyddysg mewn nifer o feysydd. Yr oedd yn un o achyddwyr pennaf ei gyfnod a bu'n aelod o'r comisiwn a benodwyd gan Harri VII i olrhain achau ei daid Owain Tudur. Bu hefyd yn gyfrifol am gopïo nifer o lawysgrifau pwysig Cymraeg yr Oesoedd Canol, er enghraifft Brenhinedd y Saeson a Brut Tysilio yn Llyfr Du Basing. Roedd ganddo wybodaeth hefyd am syniadau meddyginiaethol ei gyfnod ac am seryddiaeth. Adlewyrchir ei ddysg yn y llawysgrif hon.

 

 

Cysylltiadau diddorol

 

 

 

Llyfryddiaeth

 

  • Morfydd E. Owen, Prolegomena i Astudiaeth Lawn o Lsgr. NLW 3026C, Mostyn 88 a'i Harwyddocâd yn Iestyn Daniel, Marged Haycock, Dafydd Johnston a Jenny Rowland (gol.), Cyfoeth y Testun : Ysgrifau ar Lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. Caerdydd : Gwasg Prifysgol Cymru, 2003.


  • Morfydd E. Owen, 'The medical books of medieval Wales and the physicians of Myddfai', The Carmarthenshire Antiquary 31 (1995).


  • Morfydd E. Owen, 'Meddygon Myddfai, a preliminary survey of some medical writings in Welsh'. Studia Celtica ix/x (1995), 210-33.


  • E. Bachellery, L'oeuvre poétique de Gutun Owain. Paris, 1951.


  • J. E. Caerwyn Williams, 'Gutun Owain' yn A. O. H. Jarman, G. R. Hughes, D. Johnston, A guide to Welsh literature 1282-ca. 1550 volume II. Cardiff, 1997, 240-55.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 21-03-2007