100. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. The National Library of Wales. Aberystwyth.100. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. The National Library of Wales. Aberystwyth.

Digital Mirror

Drych Digidol

Llyfr Taliesin

(NLW Peniarth MS 2)

 


Tudalen o'r llawysgrif (f.3v) Un o lawysgrifau enwocaf Cymru yw Llyfr Taliesin (llsgr. Peniarth 2), a gopïwyd yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg. Nid teitl gwreiddiol yw 'Llyfr Taliesin' ond fel hyn y cyfeirir at y llawysgrif erbyn yr ail ganrif ar bymtheg. Mae'r gyfrol yn cynnwys casgliad o rai o'r cerddi hynaf yn yr iaith Gymraeg, nifer ohonynt wedi eu priodoli i'r bardd Taliesin a oedd yn canu tua diwedd y chweched ganrif ac a ganai gerddi mawl i Urien Rheged a'i fab Owain ab Urien. Mae cerddi eraill yn adlewyrchu'r math o ddysg a gysylltid â'r bardd arbennig hwn, rhai elfennau'n tarddu o destunau Lladin ac eraill o'r traddodiad brodorol. Yn y llawysgrif hon y cedwir cerddi enwog megis 'Armes Prydein Fawr', 'Preiddeu Annwfn' (sy'n sôn am daith Arthur a'i filwyr dros y môr i gyrchu gwaywffon a phair), a marwnadau i Gunedda a Dylan eil Ton, yn ogystal â'r cyfeiriadau cynharaf mewn unrhyw iaith frodorol, orllewinol, at gampau Ercwlff ac Alecsandr. Yn anffodus, mae'r gyfrol yn anghyflawn, oherwydd colli nifer o ddail, gan gynnwys y ddalen gyntaf.

Mae yna le i gredu mai ym Morgannwg y copïwyd Llyfr Taliesin, ac mae'r un llaw a fu'n gyfrifol am y gwaith i'w gweld mewn pedair llawysgrif arall sydd â chysylltiadau â'r de-ddwyrain. Erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg, fodd bynnag, roedd Llyfr Taliesin wedi cyrraedd Sir Faesyfed, lle y bu ym meddiant Hugh Myles o Evenjobb cyn dod i ddwylo ei gefnder, John Lewis o Lynwene. Cafodd Dr John Davies, Mallwyd, gyfle i'w chopïo rhwng 1631 a 1634, ac roedd hi yn llyfrgell enwog Robert Vaughan (c. 1592-1667), yn Hengwrt, Meirionnydd erbyn 1655 fan bellaf. Arhosodd y gyfrol yn Hengwrt tan 1859, pryd y daeth y llawysgrifau trwy gymynrodd yn eiddo i W. W. E. Wynne o Beniarth. Prynwyd casgliad Peniarth ym 1904 gan Syr John Williams a phum mlynedd yn ddiweddarach cyflwynodd yntau lawysgrifau Peniarth a Hengwrt, gan gynnwys Llyfr Taliesin, yn rhodd i'r Llyfrgell Genedlaethol a oedd newydd ei sefydlu.

Ceir disgrifiad manwl a chyfeiriadau pellach yn Marged Haycock, 'Llyfr Taliesin', Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 25 (1987-8), 357-86.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2007

Diweddarwyd: 19-02-2007