Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Cyhoeddiadau Prydeinig ac Ewropeaidd


Clawr y sgôr 'See-saw waltz' gan A G Crowe
Clawr y sgôr 'See-saw waltz' gan A G Crowe

Cyhoeddiadau Prydeinig

 

Ers sefydlu’r Ddeddf Adnau Cyfreithiol ym 1911, fe fu gan y Llyfrgell yr hawl i dderbyn sgorau a llyfrau cerddorol gan weisg Prydeinig. Er nad yw popeth wedi ein cyrraedd y mae gennym gasgliad helaeth iawn.

 

Mae’r amrywiaeth a geir yn y casgliad yn drawiadol. Pan ddaw’r bocsys adnau cyfreithiol atom, gwelwn Benjamin Britten yn cyrraedd yng nghwmni Boyzone a William Walton yng nghwmni Ella Fitzgerald.

 

Mae yma lyfrau academaidd ar gerddoriaeth e.e.

 

  • cofiannau perfformwyr
  • bywgraffiadau e.e. o Bach a Mozart
  • astudiaethau o fandiau pres
  • gwerslyfrau
  • geiriaduron

 

Caiff byd adloniant ei gynrychioli hefyd a cheir yma lyfrau ar bynciau fel:

 

  • grwpiau poblogaidd
  • cerddoriaeth y sipsi
  • bywyd y sêr
  • dawns
  • cerddoriaeth jazz, roc a reggae

 

Cyhoeddiadau Ewropeaidd

 

Mae’r Llyfrgell wedi prynu llyfrau o Ewrop, yn arbennig argraffiadau ysgolheigaidd o weithiau cyfansoddwyr mawr fel

 

  • Bach
  • Beethoven
  • Handel
  • Haydn
  • Mendelssohn
  • Mozart
  • Rossini
  • Schubert
  • Shostakovich
  • Verdi

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 18-06-2007