Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru’n cynnig ystod eang o seigiau - o bwffes i byrbrydiau - yng nghaffi Pen Dinas, yn unol â’ch anghenion.
Gweler isod fwydlenni’r gwahanol fathau o luniaeth sydd ar gael ar gyfer eich digwyddiad ynghŷd â’r ffurflen archebu bwyd.
Nid yw'r bwffe bys a bawd, y bwffe oer a'r bwffe poeth yn cynnwys diodydd; dylid nodi'r rhain ar y ffurflen archebu bwyd am gost ychwanegol.
Gellir prynu tocynnau bwyd ar gyfer eich digwyddiad i’w defnyddio yng nghaffi Pen Dinas, gellir hefyd neilltuo bwrdd ar eich cyfer.
Archebwch docynnau i gael diod ym Mhen Dinas yn y bore neu’r prynhawn yn ystod eich digwyddiad neu gellir cael te neu goffi yn Ystafell y Cyngor ac Ystafell y Llywydd neu yn atriwm y Drwm.
Mwynhewch dderbyniad gwin fel rhan o’ch digwyddiad gan gynnwys dewis o winoedd, diodydd a canapés neu fwyd ysgafn. Gofynnir am 7 diwrnod gwaith o rybudd cyn y digwyddiad.
Gellir archebu poteli o ddŵr (bach a mawr) neu jwgiau o ddŵr (gyda iâ a lemwn) ar gyfer eich cyfarfodydd. Nodwch eich anghenion ar y ffurflen archebu bwyd os gwelwch yn dda.
Darllenwch ein amodau a thelerau yn ofalus cyn llenwi'r ffurflen uchod a’i dychwelyd at Angharad Medi Jones gwas-ymwelwyr@llgc.org.uk (01970 632 801) i archebu lluniaeth ar gyfer eich digwyddiad. Rhaid i’r ffurflen hon gyrraedd o leiaf 7 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad, gan sicrhau fod yr enw cyswllt, enw'r cyfarfod a chyfeiriad y sefydliad sy’n gyfrifol am dalu wedi eu llenwi os gwelwch yn dda.