Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Ymdrechir i warchod eitemau o gasgliadau’r Llyfrgell drwy ddulliau cadwraethol. Organig yw cyfansoddiad y mwyafrif o’r gwrthrychau hyn, ac felly maent yn cynnwys elfennau sy’n raddol ddadfeilio. Er hyn, drwy ddefnyddio dulliau arbenigol, gellir atal neu arafu’n sylweddol y dirywiad hwn er mwyn cadw’n trysorau ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod.
Er mwyn gwneud y defnydd gorau o adnoddau, mae gan y Llyfrgell Bolisi Gofal Casgliadau sy’n blaenoriaethu’r gwaith ac sy’n sicrhau y defnyddir y dulliau, y deunyddiau a’r amodau amgylcheddol gorau i ofalu am gasgliadau’r Llyfrgell.
Mae Gofal Casgliadau yn cynnwys y canlynol:
Yma bydd y llyfrau a’r llawysgrifau mwyaf gwerthfawr a bregus yn cael eu trwsio gan ddefnyddio cyfuniad o ddulliau traddodiadol a modern.

Gan mai gwell yw osgoi difrod a dirywiad yn y lle cyntaf, mae'r Llyfrgell yn rhoi pwyslais ar fesurau cadwraeth ataliol er mwyn estyn oes ein casgliadau.
Dyma’r uned sy’n cadw trefn ac yn storio’r miloedd o eitemau a ychwanegir at gasgliadau’r Llyfrgell yn rheolaidd.

Yn yr uned hon rhoddir triniaeth gadwraethol i ddarluniau o gasgliadau’r Llyfrgell.
Mae pob un sy'n defnyddio'r casgliad yn gallu effeithio ar gyflwr yr eitemau. Mae Polisi Gofal Casgliadau'r Llyfrgell yn dynodi dulliau o osgoi trychinebau a mân ddifrod drwy hyrwyddo canllawiau ar gyfer trafod a storio deunyddiau’r Llyfrgell - canllawiau all fod o gymorth ac o ddefnydd i bawb wrth warchod ein trysorau yn ein cartrefi.