Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Prif weithgareddau’r uned hon yw rhifo, lleoli, silffio a chadw trefn ar y miloedd o lyfrau, cylchgronau, papurau newydd ac eitemau eraill sy’n cyrraedd y Llyfrgell yn rheolaidd.
Ymdrechir i gadw’r casgliadau dan yr amodau amgylcheddol gorau er mwyn estyn oes y gwrthrychau. Defnyddir silffoedd a storfeydd sy’n gydnaws ag argymhellion BS5454 parthed storio ac arddangos deunyddiau archifol.
Aelodau o’r uned hon sydd hefyd yn ail-silffio’r deunyddiau a ddefnyddir yn yr ystafelloedd darllen yn ddyddiol.
Elfennau pwysig eraill o waith yr uned yw sicrhau fod eitemau bregus o’r casgliadau yn derbyn triniaeth gadwraethol yn ôl y galw, a pharatoi papurau newydd cyfredol ar gyfer eu meicroffilmio.