Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru Stiwdio fideogynadledda, sy’n rhan o Rwydwaith Fideo Cymru.
Mae’r stiwdio’n cynnwys bwrdd gwyn rhyngweithiol, taflunydd, camera dogfen, cyfrifiadur a pheiriant fideo.
Mae’n bosib cysylltu â stiwdio yn y DU neu dros y byd naill ai trwy gynhadledd point-to-point neu aml gynhadledd gan ddefnyddio ansawdd ISDN2-ISDN6 neu IP.
Gallwch logi’r amser o’ch dewis trwy’r Janet Video Conference Booking Service, bydd y system wedyn yn danfon e-bost yn awtomatig at y cyswllt cynhadledd a enwyd.
Am fwy o fanylion neu i logi’r stiwdio cysylltwch ag Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru ar 01970 632 927 neu e-bostiwch agssc@llgc.org.uk

Mae’r Llyfrgell yn awyddus iawn i groesawu partïon i’r Llyfrgell, boed yn gymdeithasau neu’n ysgolion.
Cysylltwch ag Angharad Medi Jones ar 01970 632 801 neu gwas-ymwelwyr@llgc.org.uk i wneud trefniadau cyn danfon y ffurflen teithiau yn ôl os gwelwch yn dda.
Gall y Llyfrgell ddarparu prydau parod ar gyfer eich digwyddiad, o ddŵr ar gyfer siaradwyr i brydau oer neu boeth: gweler y dudalen arlwyo. Cysylltwch ag Angharad Medi Jones ar 01970 632 801 neu gwas-ymwelwyr@llgc.org.uk am ragor o wybodaeth
Mae adnoddau llungopïo ar gael i’w defnyddio am dâl.