Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Sefydlwyd adran gadwraeth a rhwymo llyfrau'r Llyfrgell yn 1912 gyda’r bwriad o drwsio ac atgyfnerthu cyfrolau, llawysgrifau ac eitemau bregus. Mae’r traddodiad hwn yn parhau hyd heddiw.
Tra bod cadwraeth ataliol yn canolbwyntio ar atal difrod, mae yna ddigonedd o wrthrychau gwerthfawr yn ein casgliadau sydd eisoes wedi dirywio ac sydd wir angen eu trwsio gan ein cadwraethwyr. Heb ymyrraeth arbenigol o’r fath, ni fyddai modd digido na chyflwyno’r eitemau mwyaf bregus i’r darllenydd.

Wrth wneud gwaith cadwraeth o’r fath dilynir canllawiau ethegol rhyngwladol sy’n cynnwys:

Yn yr uned defnyddir offer a medrau traddodiadol rhwymo llyfrau ochr yn ochr â thechnegau gwyddonol. Profir lefel yr asidedd mewn papur, a rhoddir triniaeth ddiasideiddio yn ôl yr angen. Gall y cadwraethwyr drwsio a thrin amrywiaeth eang o ddeunyddiau megis:
Cyfres o ddelweddau llonydd yn arddangos y broses o adfer negydd gwydr gyda delwedd o'r Parch. T. Davies (Casgliad John Thomas, tua 1885).
Dim sain
Fformat JPG
Hyd 1 munud
Syndrom finegr yw’r enw poblogaidd ar ddirywiad negatifau sydd â sylfaen ffilm asetad seliwlos. Er bod y ffilmiau asetad seliwlos hyn yn llawer mwy ymarferol na’r ffilm nitrad a’u rhagflaenodd, eto nid ydynt mor barhaol. Mae problemau yn codi pan fo’r asetad seliwlos sy’n sail i’r emwlsiwn ffotograffig yn dechrau dirywio, ac yn sgil hynny mae’n cynhyrchu asid asetig (“finegr”). Mae asetad seliwlos yn ffurf addasedig o seliwlos. Bydd yn ceisio dychwelyd i’w ffurf wreiddiol o gael gwres, lleithder cymharol ac asidedd. Mae hyn yn ei dro yn cynhyrchu asid asetig tu fewn i’r plastig a hwnnw’n treiddio i’r wyneb gan achosi arogl a breuder, yn ogystal â gwneud i’r sylfaen ffilm grebachu – sy’n fwy niweidiol na dim arall. Mae’r crebachu yn achosi i emwlsiwn y ffilm sydd heb ei niweidio gan yr asid ddod yn rhydd oddi wrth y sylfaen ffilm gan achosi’r sianelu sy’n nodweddiadol o’r cyflwr hwn. Gellir arafu’r dirywiad trwy selio’r negyddion a effeithiwyd mewn gwactod a’u rhewi.
Mae adran gadwraeth y Llyfrgell felly am fynd ati â’r dasg heriol o “drin” y negatifau sydd wedi’u heffeithio. Gan ddefnyddio techneg a ddatblygwyd gan Chris Woods, Cymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol y Celfyddydau Llundain ac Ian ac Angela Moor yn y Ganolfan ar gyfer Cadwraeth Ffotograffig, tynnir yr haenau gelatin a seliwlos sy’n achosi’r difrod i’r negatif, a chaiff pelicl y llun ei hydradu a’i hongian unwaith eto mewn gorchudd polyester anadweithiol.
Mae’r driniaeth hon yn golygu nad yw Syndrom Finegr bellach yn gallu achosi difrod i belicl y llun, ac nad oes bellach angen storio arbenigol ar y negatifau drwy eu rhewi. Hyd yn hyn mae mwy na 1500 o negatifau wedi cael eu trin yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, a’r gobaith yw rhoi’r driniaeth hon i’r holl negatifau asetad seliwlos sydd yng nghasgliad y Llyfrgell. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r driniaeth yn golygu bod y lluniau ar y negatifau yn dychwelyd i’w gogoniant gwreiddiol, ac yn y pen draw caiff y negatifau hyn sydd wedi’u trin eu digido unwaith eto er mwyn i ddefnyddwyr fedru cael llun o well ansawdd.
Mae hwn yn brosiect hynod gyffrous sy’n dangos gwerth cyfuno sgiliau Cadwraeth gyda Digido er mwyn sicrhau diogelwch ein casgliadau i’r dyfodol a hefyd rhoi’r mynediad gorau posibl i’n casgliadau i ddarllenwyr, yn ddigidol ac yn gorfforol.