Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Cofrestr o'r drwgweithredwyr a ddaliwyd gan Gwnstabliaeth Sir Aberteifi rhwng 1897 a 1933 yw Llsgr. NLW 23203B sy'n cynnwys ffotograffau o nifer ohonynt.
Ers dechreuadau ffotograffiaeth cafodd y delweddau a gynhyrchid eu newid a'u hystumio am wahanol resymau. Eto i gyd, yn ei hanfod, proses fecanyddol yw ffotograffiaeth sy'n cynhyrchu copi dau ddimensiwn o beth bynnag sy'n cael ei osod o flaen y camera.
Yn fuan wedi dyfeisio ffotograffiaeth yn 1839 gwelwyd y gellid defnyddio'r broses fecanyddol o gofnodi'n gywir fel modd i gadw rheolaeth ar elfennau 'drwg' o fewn cymdeithas. Mor gynnar â'r 1840au ceir adroddiadau am yr heddlu yn defnyddio ffotograffiaeth yn Lloegr. Ond nid tan gwymp Commune Paris yn 1871 y'i defnyddiwyd ar raddfa eang. Adnabyddid y gwrthryfelwyr wrth eu ffotograffau er mwyn eu cipio a'u cosbi. Bu ffotograffwyr hefyd yn gweithio yn y carchardai yn tynnu lluniau o'r unigolion a arestiwyd ac erbyn yr 1880au roedd y 'gwep lun', neu'r mug shot, wedi dod yn rhan arferol o waith yr heddlu.
Ond nid dyna hyd a lled y defnydd o ffotograffiaeth i reoli elfennau 'drwg' cymdeithas. Gwelodd y bedwaredd ganrif ar bymtheg goleddu nifer o ddamcaniaethau yn cysylltu ymddygiad â nodweddion corfforol. Gwelid tynnu ffotograffau o ddrwgweithredwr fel modd o adnabod y nodweddion corfforol hynny a fyddai'n dangos tuedd tuag anghyfraith ac o sefydlu beth oedd y 'teip troseddol'.
Erbyn dechrau'r ugeinfed ganrif, roedd ffotograffiaeth yr heddlu wedi dod yn ffurf dderbyniol ar dystiolaeth. Fe'i defnyddid i adnabod troseddwyr unigol, yn hytrach na 'theipiau troseddol', ac o ddogfennu a chofnodi'r fan lle'r oedd trosedd wedi digwydd. Mae'r gofrestr hon o Sir Aberteifi yn dangos fod y technegau hyn yn cael eu defnyddio gan yr heddlu yng Nghymru. Yn ogystal â disgrifiadau corfforol o'r carcharorion eu hunain a manylion am eu troseddau, ceir ffotograffau o'r rhai a ddedfrydwyd rhwng 1897 ac 1909 ynghyd ag ambell ffotograff o dystiolaeth neu leoliad trosedd.