100. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. The National Library of Wales. Aberystwyth.100. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. The National Library of Wales. Aberystwyth.

Digital Mirror

Drych Digidol

Llawysgrifau


Newydd: Brwydrau Alecsander Fawr (Llsgr. Peniarth 481D)

Dyma un o lawysgrifau canoloesol harddaf eu haddurn y Llyfrgell, ac mae’n enghraifft brin o oroesiad mewn rhwymiad gwreiddiol. Mae'n cynnwys stori boblogaidd bywyd Alecsander Fawr.

Llyfr Offeren Sherbrooke (Llsgr. NLW 15536E)Newydd: Llyfr Offeren Sherbrooke (Llsgr. NLW 15536E)

Llawysgrif brydferth sydd yn dyddio o c.1310-1320. Dyma'r llawysgrif gerddorol ganol-oesol gyntaf i'w gosod ar Ddrych Digidol y Llyfrgell Genedlaethol, a hefyd dyma un o’r esiamplau cynharaf o lyfr offeren o darddiad Seisnig

Papyri OxyrhyncusNewydd: Papyri Oxyrhyncus (Llsgr. LLGC 4738D)

3 dernyn hynafol o bapyrws o'r Aifft (113 OC - 4edd ganrif) sy'n esiamplau o'r miloedd o bapyri a ddarganfuwyd yn yr Aifft yn yr 1890au.

Llyfr Cywyddau Wmffre DafisNewydd: Llyfr Cywyddau Wmffre Dafis (Llsgr. Brogyntyn I.2)

Cyfrol o gywyddau ac awdlau Cymraeg (15fed-16eg ganrif) sy'n cynnwys gwaith gan feirdd megis Dafydd ap Gwilym a Guto'r Glyn.

 

Seryddiaeth Gynnar (Llsgr. LLGC 735C)
Y llawysgrif wyddonol gynharaf yn y Llyfrgell, sy'n cynnwys testunau Lladin ar seryddiaeth.

 

 

 

Llyfr Llandaf (llsgr. NLW 17110E)Llyfr Llandaf (Llsgr. LLGC 17110E)
Un o lawysgrifau eglwysig cynharaf Cymru (ca. 1150) sy'n croniclo hanes cynnar esgobaeth Llandaf.

 

 

 

De natura rerum (Llsgr. Peniarth 540B)De natura rerum Beda (Llsgr. Peniarth 540B)

Llawysgrif Ladin o'r 12fed ganrif sy'n cynnwys rhan o draethawd gwyddonol Beda, De natura rerum.

 

 

 

Cyfraith Hywel Dda (llsgr. Peniarth 28)Cyfraith Hywel Dda (Llsgr. Peniarth 28)
Fersiwn Lladin ar gyfraith Hywel sydd â chyfres o ddarluniau yn y testun.

 

 

 

 

Llyfr Du Caerfyrddin (llsgr. Peniarth 1)Llyfr Du Caerfyrddin (Llsgr. Peniarth 1)
Un o'r llawysgrifau Cymraeg cynharaf i oroesi.

 

 

 

 

Llawysgrif Hendregadredd (llsgr. NLW 6680B)Llawysgrif Hendregadredd (Llsgr. LLGC 6680B)
Y casgliad hynaf o waith y Gogynfeirdd (12fed-14eg ganrif).

 

 

 

 

Llyfr Taliesin (llsgr. Peniarth 2)Llyfr Taliesin (Llsgr. Peniarth 2)
Un o lawysgrifau enwocaf Cymru a rhai o'r cerddi hynaf yn yr iaith Gymraeg.

 

 

 

 

Brut y Tywysogion (Llsgr. Peniarth 20)Brut y Tywysogion (Llsgr. Peniarth 20)
Llawysgrif (ca. 1330) sy'n cynnwys testun llawysgrif cynnar o 'Brut y Tywysogion' yn ogystal â chopi o'r 'Bibl Ynghymraec' a'r gerdd 'Myrddin a Gwenddydd'.

 

 

 

Llyfr Gwyn Rhydderch (llsgr. Peniarth 4)Llyfr Gwyn Rhydderch (Llsgr. Peniarth 4)
Y compendiwm cynharaf o ryddiaith Gymraeg yn cynnwys y fersiwn cynharaf o'r Mabinogi.

 

 

 

'The Hengwrt Chaucer' (llsgr. Peniarth 392D)'The Hengwrt Chaucer' (Llsgr. Peniarth 392D)
Hanes un o'r testunau pwysicaf o'r Canterbury Tales gan Geoffrey Chaucer.

 

 

 

 

Llyfr Oriau Llanbeblig (Llsgr. NLW 15537C)Llyfr Oriau Llanbeblig (Llsgr. LLGC 15537C)
Llawysgrif o ardal Caernarfon yn amlinellu patrwm o addoliad preifat yn seiliedig ar wasanaethau'r eglwys.

 

 

 

Dafydd ap Gwilym a'r CywyddwyrDafydd ap Gwilym a'r Cywyddwyr
Detholiad o waith Dafydd ap Gwilym, bardd mwyaf adnabyddus yr Oesoedd Canol.

 

 

 

 

Piers Plowman (llsgr. NLW 733B)Piers Plowman (Llsgr. LLGC 733B)
Un o'r cerddi enwocaf mewn Saesneg Canol sy'n codi cwestiynau am foesoldeb, diwinyddiaeth, a bywyd y Cristion.

 

 

 

'Llyfr Oriau 'De Grey' (Llsgr. NLW 15537C)'Llyfr Oriau 'De Grey' (Llsgr. LLGC 15537C)
Llawysgrif yn amlinellu patrwm o addoliad preifat yn seiliedig ar wasanaethau dyddiol yr eglwys.

 

 

 

Compendiwm Saesneg Canol (llsgr. Brogyntyn ii.1)Compendiwm Saesneg Canol (Llsgr. Brogyntyn ii.1)
Un o'r llawysgrifau Saesneg Canol pwysicaf yn y Llyfrgell.

 

 

 

 

Beunans Meriasek (llsgr. Peniarth 105B)Beunans Meriasek (Llsgr. Peniarth 105B)
Drama fydryddol mewn Cernyweg Canol sy'n adrodd hanes Sant Meriasek o Lydaw.

 

 

 

Llyfr Du Basing (llsgr. NLW 7006D)Llyfr Du Basing (Llsgr. LLGC 7006D)
Cyfrol o groniclau Cymraeg, yn bennaf yn llaw y bardd Gutun Owain.

 

 

 

 

Llawysgrif gan Gutun Owain (Llsgr. NLW 3026C)Llawysgrif gan Gutun Owain (Llsgr. LLGC 3026C)
Llawysgrif gan Gutun Owain (fl. 1450-98) sy'n cynnwys testunau am feddygaeth ac astroleg.

 

 

 

Beunans Ke (llsgr. NLW 23849D)Beunans Ke (Llsgr. LLGC 23849D)
Llawysgrif o ddrama mewn Cernyweg Canol am Sant Ke, a ddarganfuwyd ym 2000.

 

 

 

Cronicl Elis Gruffudd, Rhan 2 (Llsgr. NLW 3054D)Cronicl Elis Gruffudd, (Llsgr. NLW 5276D & 3054D)

Llawysgrifau o'r 16eg ganrif gan Elis Gruffudd, (‘Y milwr o Galais’), sy'n ymgeisio i adrodd hanes y byd o'i Gread hyd at 1552.

 

 

 

Taliadau i forwyn (llsgr. NLW 12450E)Taliadau i forwyn (Llsgr. LLGC 12450E)
Dogfen sy'n bwrw goleuni ar wisg menywod y dosbarth gweithiol tua 1600.

 

 

 

 

Morgan Llwyd (llsgr. NLW 11431B)Morgan Llwyd (Llsgr. LLGC 11431B)
Drafft anorffenedig 'Ymddiddan rhwng henwr a phlentyn'.

 

 

 

 

Liber B, Dr John Davies, MallwydLiber B, John Davies o Fallwyd (Llsgr. LLGC 4973B)

Nifer o drawsgrifiadau, neu gopïau, gan y Dr John Davies, Mallwyd (c. 1570-1644) o lawysgrifau Cymraeg pwysig. 

 

 

 

Cwrtmawr 114BBarddoniaeth yn Rhyddiaith (Cwrtmawr 114B)

Llawysgrif (c.1628-48) sy'n cynnwys testunau crefyddol, casgliad o ganu rhydd a chywyddau, copi o draethawd yn erbyn consurwyr a dewiniaid, yn ogystal ag ofergoelion tywydd, ofergoelion poblogaidd a llawer mwy.

 

 

Hanes teulu Gwedir (llsgr. NLW 23289B)Hanes teulu Gwedir (Llsgr. LLGC 23289B)
Copi, 1669, o 'History of the Gwydir family' gan Syr John Wynn (1553-1627).

 

 

 

 

Geirlyer Kyrnẁeig (Llsgr. Llanstephan 84)Geirlyer Kyrnẁeig (Llsgr. Llanstephan 84)
Geiriadur Cernyweg a luniwyd gan yr ysgolhaig Edward Lhuyd ar ddechrau'r ddeunawfed ganrif.

 

 

 

Williams Pantycelyn (llsgr. NLW 77A)Williams Pantycelyn (Llsgr. LLGC 77A)
Barddoniaeth grefyddol gan William Williams (1717-1791), Y Pêr Ganiedydd.

 

 

 

 

Goronwy Owen (llsgr. NLW 11568B)Goronwy Owen (Llsgr. LLGC 11568B)
Cywydd gan Goronwy Owen (1723-1769), un o feirdd amlycaf Cymru'r ddeunawfed ganrif.

 

 

 

Llyfr Melyn TyfrydogLlyfr Melyn Tyfrydog (Llsgr. LLGC 23969F)
Cyfrol o achau, cerddi a nodiadau hynafiaethol, dyddiedig 1766, yn llaw'r bardd a’r uchelwr Hugh Hughes o Lwydiarth Esgob, Ynys Môn.

 

 

 

Twristiaid cynnar (llsgrau NLW 22753B a 1340C)Twristiaid cynnar (Llsgr. LLGC 22753B & 1340C)
Dau ymwelydd cefnog o Loegr yn adrodd hanes eu teithiau i Gymru, 1772 a 1801.

 

 

 

 

History of the British Bards (llsgr. NLW 13107B)History of the British Bards (Llsgr. LLGC 13107B)
Nodiadau gan Iolo Morganwg (Edward Williams, 1747-1826) am feirdd a derwyddon.

 

 

 

Ann Griffiths (llsgr. NLW 694D)Ann Griffiths (Llsgr. LLGC 694D)
Llythyr, tua 1800, yn llaw Ann Griffiths (1776-1805), Dolwar Fach, emynyddes.

 

 

 

 

Hunangofiant Smyglwr (llsgr. NLW 21834B)Hunangofiant Smyglwr (Llsgr. LLGC 21834B)
Hunangofiant rhyfeddol William Owen o Nanhyfer, Sir Benfro, a grogwyd yn 1747 am lofruddiaeth.

 

 

 

Dirwest (llsgr. NLW 8323B)Dirwest (Llsgr. LLGC 8323B)
Llyfr cofnodion ac archifau eraill Cymdeithas Ddirwestol Aberystwyth a ffurfiwyd yn 1835.

 

 

 

Dyddlyfrau Syr William Edmond Logan (Llsgr. NLW 21715-6B)Dyddlyfrau Syr William Edmond Logan (Llsgr. LLGC 21715-6B)
Sylwadau cymhellol gan y daearegwr o Ganada, 1843-44.

 

 

 

 

Llythyrau ymfudwyr (Llsgr. 22846D)Llythyrau ymfudwyr (Llsgr. 22846D)
Llythyrau gan Henry Jones (1824-52) a ymfudodd i Holland Patent, Efrog Newydd, a'i chwaer, Mary Jones (1831-61) a fudodd i Ballarat, New South Wales.

 

 

 

Llythyron o Ryfel Cartref America (llsgr. NLW 22421D)Llythyron o Ryfel Cartref America (Llsgr. LLGC 22421D)
Casgliad o lythyron o faes y gad gan filwr o Gymru, John Griffith Jones (m. 1864).

 

 

 

 

Drwgweithredwyr (llsgr. NLW 23203B)Drwgweithredwyr (Llsgr. LLGC 23203B)
Cofrestr o'r drwgweithredwyr a ddaliwyd gan Gwnstabliaeth Sir Aberteifi rhwng 1897 a 1933.

 

 

 

Yr Arwr, Hedd Wyn (Llsgr. LLGC 4628C)Yr Arwr, Hedd Wyn (Llsgr. LLGC 4628C)
Un o ddrafftiau terfynol o awdl ‘Yr Arwr’ yn llaw’r bardd Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans, 1887–1917), a enillodd iddo gadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw yn dilyn ei farwolaeth yn 1917.

 

 

Dylan Thomas a map of Llareggub (llsgr. NLW)Dylan Thomas a map Llareggub (Llsgr. LLGC)
Map o Llareggub a luniwyd gan Dylan Thomas (1914-1953) wrth gyfansoddi Under Milk Wood.

 

 

 

Cylchgronau gwersyll carcharorion rhyfel (1943-1945)Cylchgronau gwersyll carcharorion rhyfel (Llsgr. LLGC 22424F)

Cylchgronau a grëwyd gan garcharorion rhyfel Cymreig yng ngwersyll Stalag IVB, yn Yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

 

 

 

 

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2007

Diweddarwyd: 12-08-2010