Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Prif bwyllgor sefydlog y Bwrdd yw’r Pwyllgor Archwilio sy’n cynnwys rhai o aelodau’r Bwrdd a dau aelod annibynnol allanol. Mae’n cwrdd bedair gwaith y flwyddyn. Bydd y pwyllgor yn derbyn adroddiadau am amrywiaeth eang o agweddau o waith y Llyfrgell gan yr Archwilwyr Mewnol (RSM Tenon) a'r Archwilwyr Allanol (Swyddfa Archwilio Cymru). Rhoddir adroddiad am bob pwyllgor i’r cyfarfod Bwrdd sy’n dilyn.