Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae'r Ddeddf Gwarchod Data 1998 yn rhoi i unigolion yr hawl i gael mynediad at wybodaeth amdanynt hwy eu hunain. Mae'r tudalennau hyn yn cynnwys canllawiau sy'n dangos sut mae cael mynediad at wybodaeth a gedwir gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru o dan amodau'r Ddeddf Gwarchod Data.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru'n cymryd o ddifrif ei oblygiadau ynglyn â gwarchod data ac oherwydd hyn mae gan y Llyfrgell Swyddog Gwarchod Data sy'n gyfrifol am sicrhau fod y Llyfrgell yn cyflawni ei gwahanol rwymedigaethau cyfreithiol o dan y Ddeddf Gwarchod Data a hefyd yn gyfrifol am sicrhau cywirdeb y cofnod yng nghofrestr y Comisiynydd Gwybodaeth.

Cysylltu â'r Swyddog Gwarchod Data: Mr Arwel Jones yw Swyddog Gwarchod Data'r Llyfrgell a dylid cyfeirio pob ymholiad gwarchod data ato.
Manylion cyswllt:
Swyddog Gwarchod Data
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3BU
rhif ffôn: 01970 632 801
ebost: dpo@llgc.org.uk