Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Digital Mirror

Drych Digidol

Llyfrau lluniadu yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

Gweld esiamplau o'r casgliad

 


Penry Williams, Caerdydd. Llyfr lluniadu 432, t.3 (PG5346) Mae casgliad y Llyfrgell Genedlaethol o lyfrau lluniadu yn cynnwys ystod eang o ddeunydd, o waith amatur gan ymwelwyr cyfoethog i frasluniau gan arlunwyr proffesiynol.

Perthyn yr arfer o ddefnyddio cyfrolau yn hytrach na dalennau rhydd ar gyfer lluniadu i ffordd arlunwyr o weithio a'r ffaith bod llyfrau o'r fath ar gael yn rhad. Ceir enghreifftiau cynnar amlwg o amser y Dadeni pan fyddai arlunwyr fel Leonardo da Vinci (1452-1519) yn llenwi cyfrolau o bapur glân â lluniadau manwl. Cedwid y cyfrolau hyn wedyn.

Perthyn y rhan helaethaf o gasgliad y Llyfrgell i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Eto i gyd ceir gwaith ardderchog o'r ddeunawfed ganrif, ac ymhlith y pwysicaf mae gwaith Alexander Cozens (1717-1786) a'i fab John Robert (1752-1797), P. J. de Louthenbourg (1748-1812), Moses Griffith (1749-1819), a Thomas Jones, Pencerrig (1742-1803). Fel arfer golygfeydd o Gymru sy'n llenwi'r cyfrolau hyn, a nifer ohonynt yn dilyn llwybr topograffyddol penodol. Daeth hi'n ffasiynol i ymwelwyr gynnwys brasluniau o'u gwaith eu hunain mewn hanesion am eu teithio, ac mae gwaith John Parker (1798-1860) ac Edward Pryce Owen (1788-1863) yn enghreifftiau da o hyn.

Bu'r Llyfrgell yn casglu llyfrau lluniadu o'r cychwyn. Derbyniwyd nifer yn rhodd gan Syr John Williams, prif noddwr y Llyfrgell, gan gynnwys cyfrol o ddyfrlliwiau o Gymru gan Thomas Rowlandson (1756-1827), gŵr a gydnabyddir fel prif ddrafftsmon ei gyfnod.

Mae'r Llyfrgell yn parhau i gasglu'r math hyn o ddeunydd ac ymhlith yr eitemau pwysicaf a dderbyniwyd yn ddiweddar mae cyfres o lyfrau gan Will Roberts (1907-2000) a chyfrol fechan o ddyfrliwiau gan Penry Williams (1798-1885).

Ceir enghreifftiau unigryw o waith arlunwyr Cymreig yn y casgliad. Mae'r casgliad yn adnodd hanfodol a byw i neb a fyn wybod mwy am fywyd yng Nghymru dros y ddwy ganrif a hanner a aeth heibio. Er bod mynediad at rai o'r eitemau mwyaf gwerthfawr wedi'i gyfyngu, gellir gweld y rhelyw o'r casgliad heb apwyntiad.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 13-09-2010