Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Uned Cadwraeth Îsl


Y swyddog cadwraeth wrth ei gwaith
Y swyddog cadwraeth wrth ei gwaith

Sefydlwyd stiwdio cadwraeth darluniau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru er mwyn cynnig gwasanaeth proffesiynol ar gyfer amgueddfeydd, unigolion a chasgliadau cyhoeddus a phreifat.

 

Cynigir ystod eang o wasanaethau cadwraeth ar gyfer darluniau îsl sy’n cynnwys:

 

  • triniaethau cadwraeth cyflawn ar gyfer adfer darluniau hen a newydd


  • arolygu cyflwr darluniau


  • amcangyfrif cost triniaeth


  • gwaith fframio cadwraethol


  • dogfennaeth lawn ysgrifenedig a ffotograffig


  • pob agwedd o reoli casgliadau o’r asesiad cychwynnol i’r gwaith fframio


  • archwilio cyflwr gwaith celf drwy ddulliau gwyddonol


  • paratoi adroddiad cyflwr cyn gwerthu neu brynu darn o gelf


  • cynorthwyo arddangosfeydd yn cynnwys archwilio cyn ac ar ôl benthyg, goruchwylio gwaith fframio a phacio, a gwasanaeth cludo eitemau


  • cymorth argyfwng yn achos tân, llifogydd neu ddifrod damweiniol
  • ymgymerir â’r gwaith yn stiwdio’r Llyfrgell neu ar y safle

 

 

Swyddog Cadwraeth Darluniau Îsl

 

Enillodd Jenny Williamson, swyddog Cadwraeth Darluniau Îsl y Llyfrgell, ei gradd ym Mhrifysgol Caergrawnt cyn cael hyfforddiant mewn cadwraeth darluniau îsl yn Sefydliad Celf Courtauld. Bu’n gweithio mewn amgueddfeydd ac i gwsmeriaid preifat yng Nghymru, Lloegr a’r India, gan gynnwys Amgueddfa Victoria ac Albert, yr Oriel Genedlaethol, Llundain, Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Ymddiriedolaeth Trichanmlwyddiant Calcutta.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 09-06-2009