Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Catalogau
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!


Adnoddau Electronig


Dysgu yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llun sgrin Dysgu Safle i bawb sydd am gael cyflwyniad i'r Llyfrgell arbennig hon a'i gwaith, a chael syniadau am sut i'w defnyddio.

 

 

 

 

Drych Digidol

Llun sgrin y Drych Digidol

Dyma Lyfrgell Ddigidol Cymru. Casgliadau Llyfrgell

Genedlaethol Cymru wedi eu digido i chi. Mae'n tyfu o fis i fis.

 

 

 

Trosedd a Chosb

Llun sgrin Trosedd a Chosb Mae'r gronfa'n cynnwys data am droseddau, troseddwyr, a chosb sydd ar gael ymhlith ffeiliau carchar Llys y Sesiwn Fawr yng Nghymru o 1730 hyd at ddiddymu'r llys ym 1830.

 

Maldwyn: Y Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau

Llun sgrin Maldwyn Mynegai i farddoniaeth Gymraeg y llawysgrifau. Ceir nifer o ddewisiadau chwilio, megis llinell gyntaf, llinell olaf, enw'r bardd, mesur, math a phwnc.

 

 

 

 

Cronfeydd Data Baledi

Llun sgrin Cronfeydd Data Baledi Dyma'r casgliad mwyaf o Faledi Cymraeg a brintiwyd yn y 19eg a dechrau'r 20fed ganrif. O achos gwaith cadwraeth, mae'n bosib na fydd rhai eitemau ar gael i'w harchebu.

 

 

Ymrwymiadau Priodas

Llun sgrin Ymrwymiadau Priodas Mynegai o ymgeiswyr am ymrwymiad priodas 1616-1837.

 

 

 

 

Mynegai Ffotograffau

Llun Sgrin Mynegai Ffotograffau Mae'r Casgliad Ffotograffig Cenedlaethol yn cynnwys 750,000 o ddarluniau o ddiddordeb Cymreig, yn dyddio o ddyddiau cynnar ffotograffiaeth hyd heddiw.

 

 

Y Bywgraffiadur Arlein

Llun sgrin Y Bywgraffiadur Ar-lein Bywgraffiadur chwiliadwy am fywyd cannoedd o Gymru ar hyd yr oesau.

 

 

Maenorau

Llun sgrin Maenorau Cronfa ddata o gofnodion maenorol Cymru, sy'n rhan o Gofrestr o Ddogfennau Maenorol, yn nodi lleoliad y cofnodion maenorol. Gellir cael mynediad hefyd trwy http://www.mdr.nationalarchives.gov.uk/mdr/.

 

Newsplan Cymru

Llun sgrin Newsplan Cymru Mae Newsplan Cymru'n cyflwyno gwybodaeth am bapurau newydd Cymru.

Cynllun cydweithredol yw Newsplan i ddiogelu papurau newydd hanesyddol a hyrwyddo mynediad at eu cynnwys

 

ALARM: Administrative, Legislative and Accountable Records Management

Llun sgrin ALARM Mae ALARM, prosiect a ariennir yn rhannol gan ESF, yn anelu at roi sylw i fylchau yn sgiliau Mentrau Bach a Chanolig (SMEau) Ceredigion. Bydd yn darparu hyfforddiant mewn rheoli cofnodion a rheoli cofnodion electronig sylfaenol, yn ymdrin â phynciau yn ymwneud â chydymffurfio â deddfwriaeth sy'n effeithio ar SMEau ac yn darparu llwybr at hyfforddiant pellach trwy gynnig achrediad OCN ar lefel 3.

 

Rhwydwaith Archifau Cymru

Llun sgrin Rhwydwaith Archifau Cymru Mae'r wefan hon yn cynnwys disgrifiadau o'r math o gasgliadau a ddelir gan archifdai cyhoeddus, prifysgolion a chyrff eraill yng Nghymru. Mae'n fynegai i ffynonellau yn hytrach na ffynhonnell ei hun.

 

Cymru ar y We

Gallwch nawr chwilio catalog y llyfrgell am wefannauLlun catalog y Llyfrgell

dilysedig o safon uchel, sy'n cynnig gwybodaeth

ddibynadwy am Gymru a phob agwedd o fywyd Cymreig.



 

Culturenet Cymru

Llun sgrin Culturenet Cymru Mae Culturenet yn defnyddio adnoddau i godi ymwybyddiaeth ac i gynnig mynediad i ddiwylliant a hanes Cymru.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 28-08-2008