Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Dyma fraslun o'r digwyddiadau yn 2013. Bydd Cyfeillion yn cael rhagor o fanylion cyn pob digwyddiad.
| Dyddiad | Digwyddiad | Lleoliad | Amser |
|---|---|---|---|
| 16/2/2013 | Andrew Green, yng nghwmni ein Llywydd Anrhydeddus, Dr R Brinley Jones, yn edrych yn nôl ar ei gyfnod fel Llyfrgellydd ac ystyried rôl y Llyfrgell ar gyfer y dyfodol. Trefniant ar y cyd gyda Penodau. (dwyieithog) | Y Drwm | 14.00 |
| 11/5/2013 | Taith ddiwylliannol i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe a mannau eraill. (dwyieithog) | 9.30 | |
| 13/7/2013 | Cyfarfod Blynyddol a chyflwyniadau gan Dr Maredudd ap Huw ar ‘Lawysgrif Boston’ a Gwyneth Davies ar wirfoddoli yn y Llyfrgell, am 1.00 o’r gloch ac yna’r ddarlith flynyddol ar ‘Hanes stad Madryn, Llŷn’ a draddodir gan John Dilwyn Williams, Cadeirydd y Cyfeillion. (dwyieithog) | Y Drwm | 13.00 |
| 14/9/2013 | Wyn Thomas o Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn traddodi darlith ar ‘‘Trysorau’r Hen Ffydd yn y Llyfrgell Genedlaethol’. (Cymraeg gyda chyfieithu ar a pryd) | Y Drwm | 14.00 |
| 9/11/2013 | Darlith gan Yr Athro John Gwynfor Jones ar ‘William Parry o Laneurgain, Ysbïwr i Elisabeth y 1af’. (Cymraeg gyda chyfieithu ar y pryd) | Y Drwm | 14.00 |
Anfonwn ddyddiadau ac amserau pendant at Gyfeillion ymlaen llaw. Os oes gennych unrhyw ymholiad cysylltwch â:
Pedr ap Llwyd
Ysgrifennydd
Cyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
SY23 3BU
Rhif ffôn: (01970) 632 952
ebost: cyfeillion@llgc.org.uk