Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn croesawu cwmnïau i ffilmio yn y Llyfrgell ond mae natur ein casgliadau yn golygu fod rhaid i ni roi sylw i ystyriaethau ynglŷn â chadwraeth, hawlfraint a diogelwch ac ni ellir sicrhau mynediad i bopeth.
Sut gall y Llyfrgell fod o ddefnydd i chi?
Gall aelod o'ch staff ymaelodi â'r Llyfrgell am ddim, a gwneud ymchwil ar ei liwt ei hunan yma.
Mae'r Llyfrgell yn ganolfan wybodaeth wych ar gyfer pob math o raglenni. Mae ganddi:
Cofiwch, hefyd, er ein bod yn arbenigo mewn deunydd Cymreig a Cheltaidd, nad dyna ein hunig gasgliadau. Mae gennym ddeunydd ar ystod eang o bynciau.
I ddod yn ddarllenydd yn y Llyfrgell mae'n rhaid bod dros 16 oed a dangos 2 brawf adnabod. Rhaid dod yn bersonol i nôl y tocyn darllen. Ceir mwy o wybodaeth yn yr adran Darllen yn LlGC.
I arbed amser gallwch fynd i'r wefan a’r Drych Digidol i weld peth o'n casgliad amrywiol o ddarluniau. Mae yno dros 4,000 o luniau ac ychwanegir at y rhain yn gyson. Rhaid cysylltu â'r Llyfrgell i glirio hawliau darlledu cyn defnyddio unrhyw ddelwedd.
I ffilmio deunydd o'n casgliadau llyfrau, ffotograffau, mapiau, cardiau post, llawysgrifau, posteri neu ddarluniau cysylltwch â Sian Henson yn yr Uned Farchnata ar post@llgc.org.uk neu 01970 632 545
Gweler isod am restr brisiau.

Mae adeilad ysblennydd y Llyfrgell gyda'i olygfa fendigedig o dref Aberystwyth a Bae Ceredigion yn lleoliad ffilmio gwych. Mae'n lleoliad delfrydol ar gyfer cynnal cyfweliadau mewn awyrgylch urddasol ac ysgolheigaidd.
Mae Oriel Gregynog, ar y llawr cyntaf (Lefel 1), yn cynnal arddangosfeydd o waith artistiaid mwyaf adnabyddus Cymru megis Kyffin Williams, Claudia Williams a Will Roberts yn ogystal â rhoi cyfle i artistiaid llai adnabyddus i ddangos eu gwaith.
Mae Oriel Gregynog nid yn unig yn lleoliad hardd ac agored ond mae'r arddangosfeydd cyson yn destun parod a sylweddol ar gyfer rhaglenni celf neu fel cefndir i sgyrsiau a chyfweliadau'n ymwneud â'r byd celf neu i gyd-fynd â thema sy'n rhedeg yn gyfochrog â phwnc eich rhaglen.
Codir £300 y dydd am ffilmio neu £60 yr awr. Mae'r pris hwn yn cynnwys y gwaith ymchwil o nôl deunydd sydd i gael ei ffilmio a phresenoldeb aelod o staff y Llyfrgell sydd yn gorfod bod wrth law am resymau diogelwch a chadwraethol. Rhaid rhoi o leiaf 4 diwrnod gwaith o rybudd cyn y dyddiad ffilmio lleoliad, ond disgwylir 10 niwrnod gwaith o rybudd cyn dyddiad ffilmio eitemau o'r casgliadau.
Codir £150 y dydd am ddefnyddio'r Llyfrgell fel lleoliad ffilmio heb ddefnyddio dim o gasgliadau'r Llyfrgell. Rhaid rhoi 4 diwrnod gwaith o rybudd cyn y dyddiad ffilmio.
£30 y ddelwedd am un darllediad (nid yw'r hyd y mae'r ddelwedd ar y teledu yn cyfrif)
£50 y ddelwedd am ddarlledu ar Rwydwaith y DG
£60 y ddelwedd am ddarlledu byd-eang
£15 am ail ddarllediad gan gynnwys ar deledu digidol
£90 am 15 mlynedd o ddarlledu mewn analog a digidol, gan gynnwys gwe-ddarlledu, a defnydd ar DVD ac er mwyn hyrwyddo (Cymru/Rhanbarth)
£100 am 15 mlynedd o ddarlledu mewn analog a digidol, gan gynnwys gwe-ddarlledu, a defnydd ar DVD ac er mwyn hyrwyddo (DG a byd-eang)
Cynigir pecyn i gwmni sy'n defnyddio mwy na 10 delwedd ar ôl golygu
Ar gyfer holl ymholiadau cyfryngol y Llyfrgell, cysylltwch â'r Uned Farchnata ar 01970 632 545 neu post@llgc.org.uk