Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Arferion Da


Dau lyfr – un wedi ei effeithio gan olau
Dau lyfr – un wedi ei effeithio gan olau

Trwy ddilyn ychydig o ganllawiau syml, gellir estyn oes cyfrolau, llawysgrifau, darnau o gelf neu unrhyw wrthrych arall yn sylweddol.

 

 

Gelynion casgliadau

 

Fel y gwyddom, organig yw cyfansoddiad pob llyfr, ac felly, mae'n cynnwys yr elfennau hynny sy'n sicr o arwain at ei ddistryw rhyw ddydd. Gall y broses hon gael ei chyflymu'n arw gan, ymysg pethau eraill:

 

  • amodau amgylcheddol anffafriol
  • ymosodiadau gan bryfed
  • llwydni
  • goleuni
  • difrod dŵr

 

 

Ond o bosib, mewn modd diarwybod, pobl yw prif ddifrodwyr llyfrau yn y modd yr ydym yn trin ac yn trafod ein casgliadau.

 

Trwy ddod i adnabod prif elynion ein gwrthrychau, gwelir bod modd osgoi y rhan fwyaf ohonynt. Gellir wedyn ddilyn nifer o ganllawiau syml i estyn oes ein casgliadau gwerthfawr.

 

Cliciwch ar y penawdau ar y chwith i ddysgu mwy am rai o’r gelynion a’r hyn y gallwch wneud i leihau eu heffaith.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 09-03-2011