Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Visit Us

Ymweld a Ni

Ymweliadau Grŵp


Grŵp o ymwelwyr yn mwynhau taith dywys o gwmpas y Llyfrgell

Pwy sy’n cael ymweld?

 

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn croesawu grwpiau o bob math i ymweld ac i ddefnyddio ein gwasanaethau amrywiol. 

 

Gofynnwn yn garedig i grwpiau roi gwybod i ni am eu hymweliad ymlaen llaw.

 

Mae llawer o’n hymweliadau wedi eu trefnu gan

  • gymdeithasau hanes lleol 
  • cymdeithasau hanes teulu
  • ysgolion
  • grwpiau gwirfoddol 
  • clybiau a chymdeithasau

 

Beth am gysylltu â ni pan rydych chi’n trefnu eich calendr digwyddiadau?

 

Mae manylion am sut i drefnu ymweliad ysgol ar ein gwefan Addysg.

Teithiau tywys

 

Mae’n bosib y bydd grwpiau yn dymuno gwneud trefniadau ymlaen llaw i gael taith dywys o amgylch yr adeilad.

 

Mae pob taith yn rhad ac am ddim ac mae teithiau tywys cyffredinol yn para am oddeutu awr a hanner yr un. 

 

Gallwn, fodd bynnag, drefnu teithiau tywys i gwrdd â’ch gofynion chi

 

Mae’r teithiau yn dechrau o Siop y Llyfrgell ar y llawr gwaelod, y drws nesaf i’r dderbynfa. 

Beth fyddaf i/fyddwn ni yn ei weld?

 

Bydd ein staff profiadol yn rhoi cyflwyniad cyffredinol i

            

  • hanes y Llyfrgell
  • ei chasgliadau  
  • yr adeilad 

Ieithoedd

 

Gall y teithiau gael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg neu Saesneg. 

 

Mae cyflwyniad ysgrifenedig bras i’r Llyfrgell ar gael mewn Almaeneg, Sbaeneg a Ffrangeg  o ddesg derbynfa’r Llyfrgell.

 

 

Parcio

 

O 1 Mehefin 2009 codir ffi fechan ar ymwelwyr a darllenwyr am barcio yn y Llyfrgell Genedlaethol (Dydd Llun - Dydd Gwener yn unig).

 

Cerbyd Pris (Llun - Gwener) Pris (Sadwrn)
Ceir/beiciau modur £1 (hyd at 4 awr) Am ddim
  £2 (dros 4 awr - ddiwrnod llawn (18:15)) Am ddim
Cerbydau tywys/carafannau £2.50 (hyd at 4 awr) Am ddim
  £5.00 (dros 4 awr - ddiwrnod llawn (18:15)) Am ddim
Bws/bysiau mini Am ddim. Rhaid rhoi gwybod o flaen llaw a defnyddio'’r bylchau penodedig. Cysylltwch â'r Porthorion i drefnu hyn 01970 632 848 neu prifporthor@llgc.org.uk Am ddim

 

Mae’r ffioedd yma’n cynnwys parcio yn unai’r blychau gwyn neu goch.

 

Eithrir gyrwyr sy’n arddangos bathodyn anabl cywir rhag talu.

 

Gellir defnyddio derbynebau parcio ar gyfer talu am un pryniant yn y Llyfrgell, yn y Cafe, Siop neu wasanaethau ffotogopïo ar yr un dydd yn unig. Ni ad-delir arian yn erbyn derbynebau parcio.

 

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 07-12-2011