Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Digital Mirror

Drych Digidol

History of the British Bards

(Llsgr. NLW 13107B)

 


Mae'r llawysgrif hon yn cynnwys nodiadau gan Iolo Morganwg (Edward Williams, 1747-1826) ar gyfer llyfr y bwriadai ei gyhoeddi o'r enw 'The History of the British Bards'. Fel llawer o'i gyfoeswyr, credai Iolo mai'r beirdd Cymraeg oedd etifeddion dysg a thraddodiadau Derwyddon yr hen fyd. Haerodd Iolo fod Derwyddiaeth wedi goroesi, yn ei ffurf buraf, ym Morgannwg, ei fro enedigol. Creodd gorff enfawr o athrawiaethau a ffugiadau llenyddol derwyddol i gyfiawnhau'r haeriad hwnnw.

Edward Williams (Iolo Morganwg) JTH03446 [Edward Williams (Iolo Morganwg) (print)] [graphic] Ganed Iolo ym mhlwyf Llancarfan, yn fab i Edward ac Anne Williams. Saer maen oedd ei dad. Dywedodd Iolo mai trwy wylio ei dad yn torri llythrennau ar gerrig beddau y dysgodd yntau ddarllen. Yr oedd ei fam yn ddynes ddiwylliedig ac yn aelod o deulu bonheddig Mathews yn Llandaf a Radur.

Meistrolodd Iolo grefft ei dad, ac yn 1773 aeth i Lundain i chwilio am waith. Yno, trwy fynychu cyfarfodydd bywiog Cymdeithas y Gwyneddigion, daeth yn rhan o fywyd Cymraeg y ddinas. Ar ôl gweithio mewn gwahanol fannau yn Lloegr, dychwelodd i Fro Morgannwg yn 1777; ac yn 1781 priododd Margaret Roberts. Yn ystod 1786-7, ar ôl cyfnod helbulus fel dyn busnes, bu Iolo yng ngharchar y dyledwyr yng Nghaerdydd. Credir mai ffrwyth ei flwyddyn o garchar oedd un o'i ffugiadau mwyaf gorchestol, Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain.

Yn 1791, dychwelodd i Lundain, gan honni, mewn cylchoedd llenyddol Cymraeg a Saesneg, mai ef oedd etifedd holl gyfrinachau'r Derwyddon. Yn 1792, ar ben Bryn y Briallu, yn Llundain, cynhaliodd seremoni gyntaf Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Yn ddiweddarach daeth y ddefod yn un o brif atyniadau'r Eisteddfod Genedlaethol.

Dychwelodd Iolo i Gymru yn 1795, a dechreuodd gasglu defnyddiau ar gyfer gwaith mawr ei fywyd, 'The History of the British Bards', llyfr a fyddai, yn ei dyb ef, yn egluro i'r byd holl hanes a dysg y Derwyddon. Yn 1801 ac 1807, cyhoeddwyd nifer helaeth o'i ffugiadau llenyddol yng nghyfrolau'r Myvyrian Archaiology, wedi iddo argyhoeddi'r golygyddion mai testunau a gopïodd o hen lawysgrifau oeddynt. Er hynny, ni lwyddodd i ysgrifennu 'The History of the British Bards'. Bu farw yn 1826, gan adael casgliad anferth o lawysgrifau ar ei ôl. Mae'r casgliad hwnnw bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Darllenwyd papurau Iolo yn eiddgar gan ei edmygwyr yn ystod y 19eg ganrif; ac ni ddinoethwyd ei dwyll tan yr 20ed ganrif, trwy ysgolheictod yr Athro Griffith John Williams. Daethpwyd hefyd i werthfawrogi mawredd Iolo fel bardd a gweledydd: un o'r ffugwyr mwyaf toreithiog ac athrylithgar yn hanes llenyddiaeth.

Darllen pellach

 

  • G.J. Williams. Iolo Morganwg. Caerdydd: University of Wales Press, 1956.
  • Prys Morgan, Iolo Morganwg. Caerdydd: University of Wales Press, 1975.
  • Geraint Phillips, 'Math o wallgofrwydd: Iolo Morganwg, Opiwm a Thomas Chatterton', Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 29 (1996), 391-410.
  • Geraint H. Jenkins, Facts, Fantasy and Fiction: The Historical Vision of Iolo Morganwg. Aberystwyth : Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 1997.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 28-02-2007