Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

About NLW

Am LlGC

Sut i Archebu Copïau


Ffotograffydd yn defnyddio chwyddiwr digidol

Os nad ydych yn medru ymweld â'r Llyfrgell i archebu copïau, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Ymholiadau gyda'r:

 

  • manylion llawn o'r hyn sydd angen arnoch
  • y cyfeirnod(au) catalog
  • eich manylion cyswllt

 

Byddwn ni'n cwblhau ffurflen archeb ar eich rhan, a'i hanfon atoch i'w llofnodi, ei dyddio, a'i dychwelyd at y Gwasanaeth Ymholiadau gyda'r tâl. Gellir ei hanfon atoch yn electronig, drwy ffacs neu drwy'r post. Os am dalu drwy gerdyn credyd, argraffwch y 'ffurflen talu â cherdyn credyd' o'r wefan, ei chwblhau, gan nodi rhif eich archeb, a'i dychwelyd gyda'r ffurflen 'cais am gopïau'. Anelwn at anfon y copïau atoch o fewn pythefnos o dderbyn y ffurflen archeb a'r tâl. Gwelwch y rhan 'archebu copïau o bell' ar y dudalen 'Gwasanaeth Ymholiadau' os am fwy o fanylion.

 

 

Prisiau

 

Mae prisiau yn amrywio yn ôl eich gofynion a chodir TAW ar y raddfa berthnasol ar bob archeb. Am fanylion llawn gweler ein rhestr brisiau atgynhyrchu deunydd.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 04-09-2009