Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Prosiect Cymynrodd Kyffin Williams


Portread gan Bernard Mitchell © Bernard Mitchell

Ceri Ellis

Morlun

Machlud

Carw

Cefndir sefydlu Prosiect Cymynrodd Kyffin Williams

 

Pan fu farw ym Medi 2006, gadawodd yr arlunydd Cymreig byd enwog, Syr Kyffin Williams, ran helaeth o’i ystâd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r gymynrodd yn cwmpasu’r gweithiau a grewyd gan yr artist, ac yn eiddo iddo, ei gasgliad eang o gelf gan eraill, ei brintiau, ei archifau, medalau, ynghyd â chasgliad bach o adar ac anifeiliaid mewn efydd. Yn ogystal â hyn oll cafwyd ychydig dros £400,000 a fydd yn sicrhau’r adnoddau angenrheidiol i storio’r darluniau, catalogio’r holl ddeunydd a’r rhaglen ddigido.

 

 

Yng Ngwanwyn 2008 sefydlwyd Prosiect Cymynrodd Kyffin Williams. Dechreuwyd ar y gwaith o gatalogio’r gweithiau celf a’r archifau yn ystod Haf 2008 a bydd y rhaglen ddigido yn cychwyn ddechrau Haf 2009. Y nod yw darparu catalog arlein o fewn y ddwy flynedd nesaf a gwefan bwrpasol. Ymhlith cynlluniau’r dyfodol mae arddangosfa ag iddi ffocws rhyngwladol.

 

 

Cynnwys cymynrodd Kyffin Williams

 

Mae’r gymynrodd yn cynnwys 1200 o weithiau ar bapur, 200 darlun olew a thros 300 o brintiau gwreiddiol yn darlunio tirlun a phobl Cymru; archif gynhwysfawr yn cynnwys gohebiaeth, dyddiaduron a llawysgrifau, ynghyd â grŵp mawr o ffotograffau a sleidiau. Mae’r cyfan yn rhoi arolwg cyflawn o’i fywyd a’i waith, a byddant yn adnodd gwerthfawr i nifer o bobl, gan gynnwys:

  • athrawon a myfyrwyr ysgol
  • myfyrwyr addysg uwch
  • myfyrwyr addysg gydol oes
  • ymchwilwyr
  • staff orielau a chasgliadau cyhoeddus a chenedlaethol
  • unigolion â diddordeb mewn celf Gymreig
  • unigolion sy’n casglu neu’n berchen ar waith Kyffin Williams
  • y wasg a chyfryngau eraill

 

 

'The Sir Kyffin Williams Bequest'

 

Sgwrs yn trafod cymynrodd Syr Kyffin Williams gan Dr Paul Joyner, Llyfrgell Genedlaethol Cymru (trwy gyfrwng y Saesneg).

 

 

Blog Kyffin

 

Blog yn seiliedig ar Brosiect Cymynrodd Kyffin Williams

 

 

Prynu delweddau arlein

 

Mae rhai cardiau a phrintiau o waith Kyffin Williams ar werth yn siop arlein y Llyfrgell.

 

 

Dolenni allanol

 

Oriel Kyffin Williams - agorodd Oriel Ynys Môn ei horiel newydd yn ystod Haf 2008.

 

Amgueddfa Cymru

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 13-01-2012