Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Digital Mirror

Drych Digidol

Dyfrlliwiau John Ingleby

 


Mae'r casgliad hwn o ddyfrlliwiau yn darlunio golygfeydd yng ngogledd Cymru. Gwelir crefft Ingleby ar ei orau yn ei drefluniau bychain lle mae ei allu i sylwi ar fanylion wedi rhoi inni gofnodion unigryw o fywyd trefol y gogledd. Nodweddir ei ddarluniau gan liwio gwastad mewn dyfrlliw ysgafn tryloyw.

Conway from above the Ferry

 

John Ingleby (1749-1808)

 

Brodor o Helygain, Sir y Fflint oedd John Ingleby ac arlunydd topograffyddol a arbenigai mewn cynhyrchu golygfeydd bychain mewn dyfrlliw. Yr oedd ei waith yn ddelfrydol fel darluniau yng nghyfrolau hynafiaethol Thomas Pennant (1726-1798). Bu farw yn 1808 yn ei fro enedigol a noda cofnodion y plwyf ei alwedigaeth fel 'limner'. Roedd 'limner' yn enw a roid ar grefftwyr oedd yn gweithio ar raddfa fechan, efallai ar ddarluniau miniatur, ac yn dynodi arlunydd-grefftwr oedd wedi sefydlu enw iddo'i hun.

 

 

Gweithio i Thomas Pennant

 

Roedd Thomas Pennant yn ŵr dyfeisgar ac egnïol, a chyflogai Ingleby ar gomisiwn i gopïo delweddau penodol. Gweithiai yntau'n bennaf ar gomisiynau bychain megis copïo arfbeisiau. Ceir tystiolaeth fod Pennant wedi canfod gallu artistig Ingleby oddeutu'r flwyddyn 1780. Y mae'r holl weithiau sydd ar gael o'i eiddo yn dyddio o 1794 neu'n ddiweddarach, cyfnod diweddar yng ngyrfa Pennant, ond mae'n bosib bod cyfran o'i waith cynnar nad yw eto wedi dod i afael casgliadau cyhoeddus.

Telid Ingleby fesul darlun, y sustem a weithredid dros y canrifoedd wrth gyflogi crefftwyr. Dyma'r arfer cyffredin gydag arlunwyr a oedd yn gweithio ar gofebion, murluniau, dogfennau swyddogol a baneri. Seiliwyd tâl yr arlunydd ar faint o waith yr oedd yn ei gyflawni yn hytrach nag ar safon neu destun y gwaith. Mae hyn yn wahanol iawn i delerau cyflogi ei gyfoeswr a'i gyfaill Moses Griffith (1747-1819), a oedd hefyd yn derbyn nawdd Pennant. Cyflogai Pennant Griffith fel arlunydd amser-llawn, ac o ganlyniad rhoddid iddo statws uwch a rhyddid sylweddol.

 

 

Arlunydd-grefftwr

 

Mae Ingleby yn esiampl o arlunydd y llywiwyd ei yrfa yn gyfan gwbl gan y boblogaeth leol. Ni chafodd ei waith ei arddangos yn gyhoeddus erioed, ond yn hytrach yr oedd yn derbyn comisiwn, fel buasai crefftwr yn ei wneud, gan gwblhau'r dasg yn unol â'r cyfarwyddiadau a roddwyd iddo.

 

 

Darllen pellach

 

  • Paul Joyner. Artists in Wales c.1740-c.1851. Aberystwyth : Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1997.


Cysylltiadau diddorol

 

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 09-03-2007