Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Archifau


Wynebddalen un o lyfrau lloffion y bocsiwr Freddie Welsh (1886-1927)
Wynebddalen un o lyfrau lloffion y bocsiwr Freddie Welsh (1886-1927)

Beth yw archifau?

 

Archifau yw’r dogfennau hynny a grëwyd neu a gasglwyd ynghyd gan unigolion neu sefydliadau ac a gedwir am byth.

 

Yn wreiddiol fe grëwyd y dogfennau am resymau gweinyddol neu bersonol, ond ymhen amser fe drodd y dogfennau yn archifau, sef deunydd crai hanes yn cynnig tystiolaeth wreiddiol ac unigryw am y gorffennol. Maent yn gwbl hanfodol ar gyfer ymchwil hanesyddol.

 

 

Archifau’r Llyfrgell

 

Ceir amrywiaeth helaeth o archifau yn y Llyfrgell o ran eu maint, y math o ddogfennau a’r wybodaeth a geir ynddynt, ac o ran eu dyddiad. O siarteri canoloesol Abaty Sistersaidd Ystrad Marchell, ger Y Trallwng, i gofnodion diweddar Eisteddfod Genedlaethol Cymru; o archif wleidyddol y diweddar Gwynfor Evans i lyfrau lloffion Freddie Welsh – mae yma storfa o wybodaeth.

 

Yn ystod y blynyddoedd cynnar, cofnodion teuluoedd bonedd a’u stadau oedd nifer helaeth o’r archifau a dderbyniwyd gan y Llyfrgell. Ymysg yr archifau teuluol a stadol gellir enwi casgliadau megis:

 

 

Un o siarteri Abaty Margam, yn cynnwys sêl Esgob Llandaf, c. 1196-1218 (Penrice & Margam 48)
Un o siarteri Abaty Margam, yn cynnwys sêl Esgob Llandaf, c. 1196-1218 (Penrice & Margam 48)
    • Badminton
    • Tredegar
    • Bute
    • Penrhys a Margam
    • Castell Powis
    • Wynnstay
    • Castell y Waun

     

     

    Mae’r rhain yn gasgliadau sylweddol o ran maint, yn adlewyrchu twf, datblygiad a dylanwad y teuluoedd bonedd ymhob ran o Gymru ar hyd y canrifoedd.

     

    Ceir ynddynt filoedd o ddogfennau gwreiddiol megis:

     

    • dogfennau tir yn trosglwyddo eiddo
    • llyfrau rhent yn rhestru tenantiaid a’u heiddo
    • cofnodion maenorol
    • gohebiaeth
    • dogfennau yn ymwneud â gweinyddu’r stad

     

     

    Ni ellir olrhain hanes diwydiannol, cymdeithasol ac economaidd Cymru heb ddefnyddio’r ffynonellau sydd ar gael ymysg cofnodion y stadau mawr a’r rhai mwy lleol eu dylanwad.

     

    Yn ddiweddarach daeth y Llyfrgell i gasglu mathau eraill o archifau, sef archifau corfforaethol (sefydliadau, cymdeithasau a chyrff cyhoeddus) ac archifau personol a theuluol.

     

    Llun Harri’r Wythfed ar rôl bledion gynharaf Sesiwn Fawr sir Frycheiniog, 1542 (Sesiwn Fawr 17/1)
    Llun Harri’r Wythfed ar rôl bledion gynharaf Sesiwn Fawr sir Frycheiniog, 1542 (Sesiwn Fawr 17/1)

    Archifau corfforaethol

     

    Yn y categori hwn ceir archifau gwerthfawr tu hwnt o bwys cenedlaethol, megis:

     

    • archif Yr Eglwys yng Nghymru. Ceir yma nifer o ffynonellau gwbl allweddol i’r rhai hynny sy’n olrhain hanes teulu megis: cofrestri bedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau, adysgrifau’r esgob, ewyllysiau ac ymrwymiadau priodas
    • archifau'r enwadau anghydffurfiol, yn enwedig archif y Methodistiaid Calfinaidd
    • archif Llys y Sesiwn Fawr, sef llys barn oedd yn gwrando ar bob math o achosion o fân ladrata hyd at deyrnfradwriaeth rhwng 1543 a 1830
    • archifau lu o sefydliadau diwylliannol megis yr Eisteddfod Genedlaethol, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chwmni Opera Cymru
    • archifau cyrff gwleidyddol, diwydiannol, amaethyddol, addysgiadol a phroffesiynol

     

     

    Archifau personol

     

    Yn y categori hwn ceir archifau unigolion a theuluoedd sydd wedi cyfrannu yn helaeth at fywyd y genedl mewn gwahanol feysydd.

    • Archifau cerddorion a chyfansoddwyr
    • Arlunwyr
    • Ysgolheigion
    • Naturiaethwyr
    • Unigolion amlwg ym mywyd cyhoeddus y genedl

     

     

    Gall y math amrywiol yma o archif, er enghraifft, fod o ddiddordeb i’r ysgolhaig sydd am astudio drafftiau llenyddol astrus (archif David Jones), i’r rhai hynny sy’n ymddiddori mewn cŵn (archif Doggie Hubbard) neu’r rhai hynny sy’n awyddus i ddysgu am fywyd gwyllt yng Nghymru (archif William Condry).

     
     

    Gwerth archifau

     

    Gan mai deunydd crai hanes yw archifau, dylid eu defnyddio ar bob lefel mewn addysg - plant ysgol yn gwneud prosiect ar eu hardal leol; ysgolheigion mewn prifysgol yn dilyn ymchwil academaidd; neu aelodau o’r cyhoedd yn dilyn dosbarthiadau nos mewn hel achau.

     

    Gall chwilfrydedd annog eraill i ddefnyddio archifau, megis awydd i ddarganfod hanes tŷ neu i olrhain yr enwau a ddefnyddiwyd ar gyfer caeau neu ffermydd cyfagos.  Beth bynnag yw’r rheswm, mae archifau yn ffynhonnell anhepgor ar gyfer astudio a dadansoddi hanes cymunedau lleol a hanes y genedl.

     

     

    Sut i gael mynediad i’r archifau

     

    Gellir cael mynediad arlein i’r archifau hynny sydd wedi eu catalogio drwy chwilio ar gatalogau arlein y Llyfrgell (archifau a gatalogwyd cyn 1999, archifau a gatalogwyd ar ôl 1999. Gellir chwilio am enwau, pynciau ac enwau lleoedd, ynghyd â chwilio testun rhydd. Mae’r disgrifiadau hefyd ar gael yn y catalogau papur yn Ystafell Ddarllen y De yn y Llyfrgell.

     

    Dylid edrych ar wefan Rhwydwaith Archifau Cymru am fanylion am faint, natur a chynnwys archifau o ddiddordeb Cymreig sydd ar gadw mewn archifdai, prifysgolion a sefydliadau eraill yng Nghymru, gan gynnwys y Llyfrgell hon. Arweiniad i'r ffynonellau a’r catalogau sydd ar gael yn y gwahanol sefydliadau Cymreig a geir yma yn hytrach na ffynhonnell ei hun. Serch hynny, mae’n adnodd pwysig iawn gan fod gwybodaeth am unigolyn, sefydliad, lle neu bwnc penodol yn aml ar gael mewn mwy nag un sefydliad archifol yng Nghymru.

     

    Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

    Diweddarwyd: 17-03-2011