Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Llawysgrifau


Planisffêr mewn testun Lladin cynnar ar seryddiaeth, llsgr. NLW 735C, f. 10v
Planisffêr mewn testun Lladin cynnar ar seryddiaeth, llsgr. NLW 735C, f. 10v

Mae yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru oddeutu 25,000 o lawysgrifau, sy'n ffurfio'r casgliad mwyaf a phwysicaf o lawysgrifau Cymraeg a Chymreig yn y byd.

  • yr hynaf yn dyddio o 113 O.C. (llsgr. NLW 4738D)
  • y diweddaraf yn dyddio o’r flwyddyn 2004 (llsgr. NLW 23933D)

 


Beth yw llawysgrif?

 

Cyfrol wedi ei hysgrifennu â llaw, neu gasgliad o ddogfennau wedi eu dwyn ynghyd i ffurfio cyfrol yw llawysgrif fel arfer. Mae llawysgrifau yn cael eu cadw ar wahân i gasgliadau archifau'r Llyfrgell, er bod y berthynas rhyngddynt yn agos.

 

Ysgrifennwyd llawysgrifau’r Llyfrgell ar bapur, memrwn, papyri, dail, llechi ac amryfal gyfryngau eraill. Mae gennym hefyd enghreifftiau o lawysgrifau mewn amryw o wahanol ieithoedd, gan gynnwys Cymraeg, Saesneg, Lladin, Ffrangeg a Chernyweg.

 

Mae yn y Llyfrgell 2 brif ddosbarth o lawysgrifau, sef

 

Casgliadau Llawysgrifau cyffredinol

Casgliadau Llawysgrif Arbennig:

 

 

Yr unig lythyr a erys yn llaw yr emynyddes, Ann Griffiths, llsgr. NLW 694D, f. 1
Yr unig lythyr a erys yn llaw yr emynyddes, Ann Griffiths, llsgr. NLW 694D, f. 1

Sut mae eu canfod?

 

Bellach, catalogir holl dderbynion llawysgrif newydd y Llyfrgell yn electronig, ac mae mwy a mwy o’r disgrifiadau blaenorol yn cael eu hychwanegu at y gronfa, a’u hadolygu.

 

Gellir cael mynediad arlein i’r llawysgrifau hynny sydd wedi eu catalogio drwy chwilio ar gatalogau arlein y Llyfrgell (llawysgrifau a gatalogwyd cyn 1999 , llawysgrifau a gatalogwyd ar ôl 1999. Gellir chwilio am enwau, pynciau ac enwau lleoedd, ynghyd â chwilio testun rhydd. Gellir hefyd bori yn yr ystafell ddarllen mewn disgrifiadau cynnar a gyhoeddwyd mewn nifer o wahanol gatalogau papur.

 

Ymhle gellir darllen llawysgrifau?

 

Wedi sicrhau tocyn darllen, darllenir llawysgrifau yn Ystafell Ddarllen y De yn y Llyfrgell. Mae yno gyfarpar arbennig, megis lamp uwch-fioled, i hwyluso’r gwaith o astudio’r deunydd cynharaf, yn ogystal â chyfeirlyfrau hwylus y gellir ymgynghori â hwy wrth ymchwilio.

 

Cyfyngir mynediad at rai llawysgrifau oherwydd eu hoed a’u cyflwr, a darperir copïau dirprwyol (digidol neu ficroffilm) ohonynt ar gyfer darllenwyr.

 

Ymholiadau ac Arddangosfeydd

 

Dylid cyfeirio ymholiadau am gasgliadau llawysgrif y Llyfrgell at y tîm ymholiadau.

 

Dangosir detholiad o lawysgrifau’r Llyfrgell yn Ystafell Arddangos Hengwrt trwy gydol y flwyddyn.

 

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 28-03-2011