Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

About NLW

Am LlGC

Llogi Eitem


Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn benthyca eitemau o’i chasgliadau i arddangosfeydd dros dro yn y DU a thramor, ond yn bennaf i orielau ac amgueddfeydd yng Nghymru.

 

Fel arfer dylid gwneud ceisiadau am fenthyciadau o leiaf  6 mis cyn i’r arddangosfa agor. Rhoddir ystyriaeth i bob cais am fenthyciad cyn belled ag y bo’r lleoliad sy’n benthyca yn gallu cwrdd â’r gofynion a amlinellir yn ‘Telerau Cytundeb Benthyciad’. Mae’r Llyfrgell yn gwneud pob ymdrech i fenthyca, ac eithrio lle mae argaeledd, cyflwr neu ddiogelwch y gwrthrych yn ein rhwystro rhag gwneud hynny.

 

Ni fyddwn yn codi tâl gweinyddu ar gyfer benthyciadau o fewn y DU, ond disgwylir i fenthycwyr dalu am unrhyw gostau paratoadol (gan gynnwys cadwraeth a phacio) a chostau teithio.

 

Os am wybodaeth bellach am ein trefn benthyg, cysylltwch gyda:

 

Y Swyddog Arddangosfeydd

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Aberystwyth

SY23 3BU

 

Ffôn: 01970 632 800

Ebost: arddangosfa@llgc.org.uk

 

 

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 30-05-2008