Peniarth 28 : testun Lladin o Gyfraith Hywel Dda

Llawysgrif sy'n cynnwys copi Lladin o Gyfreithiau Hywel Dda yw Peniarth 28 (Hengwrt 7 cyn hynny). Mae'n perthyn i un o gasgliadau craidd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sef llawysgrifau Peniarth, y daeth y mwyafrif ohonynt o lyfrgell yr hynafiaethydd Cymreig enwog Robert Vaughan, (1592?-1667), o Hengwrt ger Dolgellau. Mae'r llawysgrif yn cynnwys pum ffolio ar hugain o femrwn ac yn mesur 190 x 145 mm. (maint ysgrifenedig c. 145 x c. 115 mm.).

Cyfraith Hywel

Defnyddir y term 'Cyfreithiau Hywel Dda' ar gyfer system o gyfraith frodorol Gymreig a enwyd ar ôl Hywel Dda (bu farw 950) sy'n cael y clod am gyfundrefnu'r cyfreithiau hynny. Nid oes un o'r llawysgrifau cyfreithiol sydd wedi goroesi, fodd bynnag, yn gynharach nag ail chwarter y drydedd ganrif ar ddeg. Er eu bod yn cynnwys cyfreithiau sy'n tarddu o'r 12fed a'r 13eg ganrif, mae'r ysgolheigion yn gytûn bod y llawysgrifau'n cynnwys cnewyllyn o ddeunydd sy'n llawer iawn cynharach o ran dyddiad. Bychan o ran maint yw'r mwyafrif o'r llawysgrifau hyn a hynny, mae'n debyg, am eu bod wedi eu cynllunio yn llyfrau poced i'w cludo hwnt ac yma gan gyfreithwyr, yn hytrach na chael eu cadw ar silffoedd llyfrgelloedd. Fe berthyn Peniarth 28 i'r genhedlaeth gyntaf honno o lyfrau cyfraith, a oedd yn cael eu llunio yn fwy na thebyg yng nghanol y 13eg ganrif, dyddiad a benderfynwyd gan Daniel Huws ar sail baleograffyddol a chorfforol; mae hyn yn groes i haeriad J. Gwenogvryn Evans a ddyddiodd y llawysgrif yn chwarter olaf y ddeuddegfed ganrif.

Mae'r llawysgrif hon, fodd bynnag, yn gwahaniaethu oddi wrth ei chyfoedion mewn llawer dull a modd. Yn un peth mae hi'n llawer mwy o ran maint na llyfrau cyfraith eraill y cyfnod, wedi ei bwriadu ar gyfer llyfrgell yn hytrach na phoced cyfreithiwr, ac fe'i hysgrifennwyd yn Lladin yn hytrach na Chymraeg. Ond yr elfen fwyaf anghyffredin ynglŷn â hi yw'r gyfres o ddarluniau a gynhwysir yn portreadu'r brenin a swyddogion y llys. Y casgliad y deuir iddo yw bod lluniwr Peniarth 28 wedi cael ei gomisiynu i baratoi copi arbennig o'r cyfreithiau Cymreig, yn gopi i'w gyflwyno i rywun pwysig, mae'n fwy na thebyg. Mae'r ffaith iddi gael ei hysgrifennu yn Lladin yn awgrymu gŵr eglwysig yn hytrach na chyfreithiwr, rhywun di-Gymraeg o bosibl. Awgryma'r dystiolaeth destunol iddi gael ei llunio yn ne-orllewin Cymru yn ôl pob golwg.

Hanes y Llawysgrif

Mae'n hysbys fod y llawysgrif yn Abaty Awstin Sant, Caergaint erbyn dechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Daw'r dystiolaeth ynglŷn â hyn o un o ddwy lud-ddalen a ddiogelwyd ar ddiwedd y gyfrol. Dyma'r oll sy'n weddill o'r rhwymiad gwreiddiol gyda'r hen gloriau derw a welwyd gan J. Gwenogvryn Evans ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan oedd y llawysgrif yn dal ym Mheniarth, Meirionnydd. Y mae un o'r rhain yn dwyn nod llyfrgell Abaty Awstin Sant, Caergaint, ac enw'r rhoddwr, sydd bellach yn rhannol annarllenadwy ond y gellir ei ddehongli fel enw William Byholte (bl. 1292-1318), prior yr abaty. Credir hefyd mai Peniarth 28 oedd y copi o'r cyfreithiau Cymreig yr ymgynghorwyd ag ef gan John Peckham, archesgob Caergaint, 1279-94, pan anfonodd ei lythyr at y tywysog Llywelyn ap Gruffudd yn 1282, yn beirniadu moesau'r tywysog a'r Cymry drwyddi draw, a cheir ganddo ddau gyfeiriad at Gyfreithiau Hywel Dda yng nghorff y llythyr.

Yr oedd y llawysgrif yn dal yng Nghaergaint ar ddiwedd y 15fed ganrif yn ôl catalog o lyfrgell yr abaty a luniwyd tua 1491-7 (Dulyn, llawysgrif Llyfrgell Coleg y Drindod 360), gan fod 'Leges Howelda Wallici' yn digwydd yno. Ni wyddys dim o hanes diweddarach y llawysgrif, fodd bynnag, hyd nes i'r gyfrol ddod i feddiant Robert Vaughan, Hengwrt. Bu'r catalog llyfrau yn eiddo i Dr John Dee (1527-1608), yr astrolegydd, ac wrth ochr y cofnod uchod fe ysgrifennodd 'Leges Howelis Da'. Mae'n hysbys bod Dee wedi cael gafael ar nifer o lawysgrifau o Abaty Awstin Sant, Caergaint, ond nid oes tystiolaeth eglur fod Peniarth 28 yn un ohonynt.

Darluniau

Mae'r darluniau o fewn y gyfrol yn eithriadol ym myd llawysgrifau canoloesol Cymreig. Fe'u rhennir yn ddau fath, yn gyntaf y rhai sy'n portreadu'r brenin a rhai o swyddogion y llys ynghyd â rhai ffigyrau dynol eraill, ac yn ail y darluniau o adar, anifeiliaid ac eitemau o werth cyfreithiol. Ymddengys bod y darlun o'r brenin yn seiliedig ar batrwm llawer iawn uwch ei safon na gweddill y darluniau, sy'n anghelfydd ac yn llawer llai soffistigedig. Mae'n debyg mai'r sawl a luniodd y llawysgrif a oedd hefyd yn gyfrifol am y darluniau, gan fod inc tebyg wedi ei ddefnyddio wrth lunio'r testun a'r lluniau. Ar wahân i'r inc, mae'n defnyddio dau brif liw, gwyrdd a choch. O ddewis dyddiad ar ganol y drydedd ganrif ar ddeg ar gyfer y llawysgrif, rhaid cymryd bod y defnydd a wneir o wyrdd yn hytrach na'r glas mwy cyffredin a ddefnyddid yr adeg honno, yn enwedig ar gyfer y prif lythrennau, yn brawf o hynafiaith.

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?