Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Yn ystod Rhyfel Cartref, 1861-5, gwelodd y Taleithiau Unedig y brwydro mwyaf gwaedlyd yn eu hanes. Dengys casgliad o lythyron yn y Llyfrgell Genedlaethol fod ymfudwyr o Gymru wedi chwarae rhan uniongyrchol yn y rhyfela.

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymfudodd miloedd o deuluoedd o Gymru i America. Yr oeddent yn gadael er mwyn dianc oddi wrth fywyd caled a thlodi yng Nghymru. Ymsefydlodd y mwyafrif yn nhaleithiau Efrog Newydd, Pennsylfania, Ohio a Winsconsin yn y gogledd. Cadwodd nifer o'r cymunedau Cymraeg yn y taleithiau hyn eu diwylliant cynhenid yn fyw drwy gyfrwng crefydd, eisteddfodau, a chylchgronnau fel Y Drych.
Taleithiau Undeb y gogledd a thaleithiau Conffederasiwn y de oedd yn ymladd yn erbyn ei gilydd yn ystod y Rhyfel Cartref. Yr oedd caethwasanaeth yn gyffredin yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn arbennig yn nhaleithiau amaethyddol y Conffederasiwn. Ofnai'r taleithiau hyn fod gan Abraham Lincoln, yr arlywydd oedd newydd ei ethol, gynlluniau i ddiddymu'r fasnach gaethweision. O ganlyniad ymadawodd taleithiau'r Conffederasiwn â'r Undeb ac fe arweiniodd hyn at ryfel. Bu hyd at 3 miliwn o filwyr yn ymladd yn ystod y rhyfel a lladdwyd dros 600,000 yn y brwydro.
Yn 1861 ymunodd John Griffith Jones, o Benisarwaun yn wreiddiol, â Chwmni G Inffantri Gwirfoddol 23ain Wisconsin ym Myddin yr Undeb. Teithiodd y gatrawd trwy dalaith Kentucky i galon tiroedd y Conffederasiwn a chorsydd Louisiana. Mae llythyron John Griffith Jones at ei deulu yn Wisconsin, yn adrodd hanes y rhyfel o safbwynt y milwr cyffredin. Wrth adrodd am erchyllterau rhyfel, salwch a marwolaeth mae'n llwyddo hefyd i sôn am fywyd beunyddiol ac am hynt a helynt ei gyd-Gymry yn y fyddin. Mae'r llythyron yn cofnodi y pethau rhyfeddol a welodd ar ei deithiau - y planhigion dieithr, nadredd enfawr, aligatoriaid a harddwch dinas New Orleans. Mae'r llythyron i gyd mewn Cymraeg.
Lladdwyd John Griffith Jones mewn sgarmes yn 1864.