Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Ni all neb ddadlau nad yw goleuni yn hanfodol ar gyfer darllen llyfr neu werthfawrogi darn o gelf. Er hyn, mae i oleuni ochr ddinistriol iawn, ac er mwyn estyn oes ein gwrthrychau, mae’n bwysig gostwng ei lefelau.

Wrth edrych ar feingefn sawl llyfr, gellir gweld bod golau yn pylu lliwiau.
Nid yw teitl y nofel ‘Marged’ gan T Glynne Davies i'w weld bellach ar siaced lwch y copi hwn o'r llyfr gan fod goleuni wedi ei gannu, tra bod cloriau'r llyfr a gysgodwyd gan lyfrau eraill yn parhau’n goch llachar. Digwydd hyn oherwydd effaith niweidiol ymbelydredd yr haul a golau artiffisial, sydd, nid yn unig yn pylu lliwiau, ond hefyd yn breuo deunyddiau fel lledr, lliain a phapur.
Mae ffotograffau, yn enwedig rhai lliw, yn fwy sensitif fyth i effaith niweidiol goleuni. Er mwyn ‘parchu’ ffotograff, mae llawer o bobl yn eu fframio, ond o safbwynt cadwraethol, gall hyn fod yn niweidiol iawn.
Ymdrechir i reoli lefel y golau mewn amgueddfeydd, orielau a llyfrgelloedd. Yn ein cartrefi fodd bynnag, gall lefel y golau fod yn llawer uwch. Mesurir lefel y golau mewn unedau a elwir yn 'lux'. Argymhellir lefel o 50 lux ar gyfer arddangos ffotograff neu waith celf ar bapur, a dim mwy na 150 lux ar gyfer peintiadau olew. Gall darlun neu lyfr sy'n agored i olau haul uniongyrchol fod yn derbyn cymaint â 10,000 lux, sef 200 gwaith y lefel a argymhellir.


Er mwyn amddiffyn gwrthrychau gwerthfawr rhag effeithiau niweidiol goleuni gellir dilyn rhai o’r canllawiau canlynol: