Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
http://www.wmic.org/indexcym.html
Mae Canolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru yn cefnogi, hyrwyddo a darparu adnodd gwybodaeth am gerddoriaeth Cymru.
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cynorthwyo a chefnogi pobl ifanc sy’n ymwneud â’r celfyddydau perfformio yng Nghymru.
http://www.communitymusicwales.org.uk/
Mae Cerdd Gymunedol Cymru yn darparu tiwtoriaid cymunedol, offer a chyngor er mwyn rhoi’r cyfle i bobl gyfansoddi, recordio a pherfformio eu cerddoriaeth eu hunain.
http://www.bbc.co.uk/wales/now/
Mae gan Gerddorfa Cenedlaethol Cymreig y BBC statws arbennig fel cerddorfa genedlaethol sydd hefyd yn darlledu perfformiadau. Mae Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC sydd â pherthynas perfformio agos gyda’r Gerddorfa wedi datblygu i fod yn un o gorau cymysg mwyaf blaenllaw Prydain.
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama yn hyfforddi myfyrwyr ar gyfer proffesiynau ym myd cerdd, theatr a meysydd cyfatebol eraill.
Sefydlwyd y corff Cyfansoddwyr Cymru er mwyn cynrychioli holl gyfansoddwyr Cymru. Mae’n darparu gwybodaeth a chyngor am nifer o faterion e.e. comisiynu a chyfleusterau gwaith.
http://www.tycerdd.org/wamf.html
Pwrpas Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru yw gwasanaethu cymdeithas gerddorol amatur Cymru.
http://www.wno.org.uk/index.cfm
Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yw cwmni opera teithiol mwyaf prysur Ewrop. Ei nod yw cynhyrchu operâu o’r safon uchaf ac mae hefyd yn cyflawni gwaith cymunedol ac addysgol.
Mae Tŷ Cerdd yn bartneriaeth rhwng Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru a Chanolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru. Mae gan Dŷ Cerdd gysylltiadau â llu o gymdeithasau cerddorol e.e. Cyfansoddwyr Cymru, Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru, y cymdeithasau cenedlaethol Cymreig i fandiau pres a chorau meibion.