Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Llawysgrifau Llanstephan


Buched Dewi o lsgr. Llanstephan 4, f. 18
Buched Dewi o lsgr. Llanstephan 4, f. 18

Cynnwys Llawysgrifau Llanstephan

 

Casgliad Llanstephan yw casgliad personol Syr John Williams, prif gymwynaswr y Llyfrgell Genedlaethol. Bu Syr John yn byw am flynyddoedd ym mhlasty Llanstephan, sir Gaerfyrddin.

 

Mae’r casgliad yn cynnwys:

 

  • casgliad llawysgrifau Samuel Williams (c.1660-c.1722) a’i fab Moses Williams (1685-1742) a brynwyd gan Syr John o gasgliad Castell Shirburn ym 1899 (llsgrau. Llanstephan 1-154)
  • amryfal lawysgrifau eraill a gasglwyd gan Syr John, gan gynnwys rhai o lawysgrifau Lewis Morris (1701-65) a Walter Davies (‘Gwallter Mechain’); (1761-1849) (llsgrau. Llanstephan 155-200)

 

 

Ach Dewi Sant o Lyfr Coch Talgarth, llsgr. Llanstephan 27, ff. 62v-63r
Ach Dewi Sant o Lyfr Coch Talgarth, llsgr. Llanstephan 27, ff. 62v-63r

 

 

Cyflwynwyd y casgliad i’r Llyfrgell Genedlaethol ym 1909. Ymysg y llawysgrifau mae

 

  • Brut y Brenhinedd (llsgr. Llanstephan 1)
  • Llyfr Coch Talgarth (llsgr. Llanstephan 27)
  • Llawysgrif Gutun Owain (llsgr. Llanstephan 28)

 

Ymgorfforwyd llawysgrifau eraill o gasgliad Syr John Williams, (gan gynnwys amryw a brynwyd ganddo yn arwerthiannau Syr Thomas Phillips), yng nghyfres Llawysgrifau NLW (rhifau 1-500).

 

Llyfryddiaeth

 

Am ddisgrifiadau o lawysgrifau unigol yng nghasgliad Llanstephan, gweler catalog J Gwenogvryn Evans, Report on Manuscripts in the Welsh Language’(London, 1898-1910), cyfr. II, tt. 419-782.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 17-02-2007