Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Llawysgrifau Peniarth


Darlun o ynad llys mewn testun Lladin o Gyfraith Hywel Dda, llsgr. Peniarth 28, f. 4r
Darlun o ynad llys mewn testun Lladin o Gyfraith Hywel Dda, llsgr. Peniarth 28, f. 4r

Cynnwys Llawysgrifau Peniarth

 

Llawysgrifau Peniarth yw casgliad pwysicaf y Llyfrgell o lawysgrifau. Fe’i sefydlwyd gan Robert Vaughan (c.1592-1667), Hengwrt, Meirionnydd, a gasglodd i’w lyfrgell lawysgrifau mewn:

 

 

Diddordeb pennaf Vaughan serch hynny oedd y Gymraeg. Casglodd i Hengwrt nifer helaeth iawn o’n llawysgrifau Cymraeg pwysicaf, gan gynnwys

 

 

 

Hanes Casgliad Llawysgrifau Peniarth

 

Diogelwyd y llawysgrifau yn Hengwrt am genedlaethau, ac ychwanegwyd atynt rai cyfrolau eraill tros y blynyddoedd. Pan fu farw Syr Robert Williames Vaughan o Hengwrt ym 1859, ag yntau heb etifedd, gadawodd y casgliad i’w gyfaill W W E Wynne, a symudodd y llawysgrifau i lyfrgell Peniarth, Meirionnydd.

 

Prynwyd y cyfan gan Syr John Williams (1840-1926) ym 1904. Pan fu farw W R M Wynne, mab hynaf W W E Wynne ym 1909, trosglwyddwyd y llawysgrifau o Beniarth i’r Llyfrgell Genedlaethol newydd yn Aberystwyth.

 

 

Dechrau chwedl Pwyll Pendefig Dyfed yn Llyfr Gwyn Rhydderch, llsgr. Peniarth 4, f. 1r
Dechrau chwedl Pwyll Pendefig Dyfed yn Llyfr Gwyn Rhydderch, llsgr. Peniarth 4, f. 1r

Llyfryddiaeth

 

Am ragor o hanes llawysgrifau Hengwrt-Peniarth, gweler

 

  • Handlist of Manuscripts in the National Library of Wales (Aberystwyth, 1940-2003), cyf. I, tt. iii-xxiii

 

Am ddisgrifiadau o’r llawysgrifau unigol, gweler

 

  • llsgrau. 1-327 a 533-9 (llawysgrifau Cymraeg y casgliad): catalog J Gwenogvryn Evans, Report on Manuscripts in the Welsh Language (London, 1898-1910), cyfr. I, tt. 297-1126
  • llsgrau. 328-532 (llawysgrifau mewn ieithoedd heblaw'r Gymraeg gan fwyaf): disgrifiadau'r Handlist of Manuscripts in the National Library of Wales (1943-2003), cyfr. I, tt. 1-22, ac eithrio nifer fechan o lawysgrifau na ddaeth i'r Llyfrgell yn 1909
  • llsgrau. 540-61 a 'Llawysgrifau Hynafol Peniarth' (yr holl lawysgrifau na ddaeth i'r Llyfrgell yn 1909): catalog teipysgrif Peniarth MSS: A Catalogue of Additional Manuscripts (1990)

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 21-03-2011